blog

9 Llyfr Gwych Am Faethu y Mae Arnoch Angen Eu Darllen

9 Llyfr Gwych am Faethu y mae Arnoch Angen eu Darllen

Mae maethu’n brofiad heriol a gwerth chweil, ond os ydych chi’n ystyried dod yn ofalwr maeth mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i’r holl wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch i ddechrau arni. Dyna pam y mae darllen llyfrau am faethu yn gallu bod mor werthfawr. Mae’r llyfrau hyn yn cynnig mewnwelediad a chyngor gan arbenigwyr a gofalwyr maeth profiadol, ac oherwydd hynny maen nhw’n gallu cynnig yr arweiniad a’r cymorth y mae eu hangen arnoch er mwyn i chi fod y gofalwr maeth gorau y gallwch chi fod.

Unwaith y byddwch yn dod yn ofalwr maeth, byddwch yn nwylo da ein tîm lleoli sy’n rhoi cymorth ac arweiniad. Yma yn Maethu Cymru, un o’n hymrwymiadau i chi yw’r gefnogaeth ragorol yr ydym yn ei rhoi, felly fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun o gwbl.

Gyda chymaint o lyfrau ar gael, gall eich gorlethu wrth i chi geisio darganfod ble i ddechrau. Dyma pam ry’n ni wedi llunio ein rhestr ni o’n naw hoff lyfr am faethu y mae ar bob un sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwr maeth neu sy’n gofalu am blant ar hyn o bryd, angen eu darllen (yn ôl ein harbenigwyr ni). Dewch i ni gael golwg!


Attachment, Trauma and Resilience

gan Kate a Brian Cairns

Mae un o’n Penaethiaid Gwasanaethau Plant yng Nghymru yn gweld y llyfr hwn fel “beibl y gofalwyr maeth” ac mae’n llyfr pwerus i’w ddarllen.

Mae Kate a Brian Cairns wedi maethu 12 o blant dros gyfnod o 25 mlynedd. Dyma lyfr sy’n llawn ysbrydoliaeth ac mae’n defnyddio’u stori nhw i esbonio’r theori ymlyniad yng nghyd-destun maethu grŵp therapiwtig. Mae’n llawn syniadau am sut i drafod ymddygiadau sy’n aml yn hynod o heriol, a sut i hyrwyddo cydnerthedd a iachâd.

Mae Kate a Brian yn cynnig mewnwelediad i realiti bywyd teuluol gyda phlant sydd wedi byw trwy straen llethol. Trwy senarios a ddisgrifir yn fyw iawn, dangosir sut yr ymatebodd y teulu i achosion lle’r oedd y plant yn arddangos teimladau pwerus ac ymddygiadau heriol, yn dilyn eu profiadau o drafferthion ymlyniad, colled, camdriniaeth a thrawma.

Yn ôl un o’r darllenwyr:

“Dylai unrhyw un sy’n amau gallu gofalwyr maeth i newid bywydau plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef trawma, ddarllen y llyfr hwn.”

My Name is Why

gan Lemn Sissay

Mae’r llyfr hwn yn un o’r llyfrau a werthodd orau yn ôl rhestr y Sunday Times, a hynny am reswm da.

Mae wir yn drysor i’r rheiny sydd wrth eu bodd â straeon pwerus iawn a diweddglo hapus. Nid yw My Name is Why yn dweud wrthych sut i fod yn ofalwr maeth da, ond mae’n dangos mor bwysig yw dylanwad gofalwyr maeth ar fywydau plant a phobl ifanc.

Babi oedd Lemn Sissay pan roddwyd pwysau ar ei fam i’w roi i fyny, a hithau’n rhiant sengl. Oherwydd digwyddiad dramatig yn ei bywyd, bu’n rhaid iddi adael ei babi a dychwelyd i Ethiopia. Flwyddyn yn ddiweddarach, ysgrifennodd at yr awdurdod yn gofyn iddynt ei helpu i ddod â Lemn i Ethiopia, ond darganfu fod ei mab wedi cael ei ailenwi’n Norman a’i fod eisoes yn cael ei faethu. Treuliodd 12 mlynedd nesaf ei fywyd gyda phobl yr oedd yn eu trin fel ei deulu.

Ag yntau’n agosáu at y glasoed, dechreuodd eu perthynas chwalu. Fe’i rhoddwyd mewn cartref i blant. I fachgen ifanc a chanddo neb ond y teulu maeth ers cyn cof, roedd y sioc o gael ei adael fel hyn yn anodd ei chyfleu mewn geiriau. Dim ond wedi iddo gyrraedd 17 oed y darganfu beth oedd yr enw a roddwyd arno ar ei enedigaeth. Wedi chwilio am amser hir, cyfarfu â’i fam enedigol yn Gambia pan oedd yn 21 oed.

Mae’n stori sy’n llawn ysbrydoliaeth. Mae’n stori am anffawd, trawma ac esgeulustod ond mae hefyd yn stori am ddyfalbarhad a gobaith, ond peidiwch â chymryd ein gair ni. Yng ngeiriau un o’r darllenwyr:

“Cofiant anhygoel a thorcalonnus. Rwy’n ei argymell yn fawr. Roedd gweld dogfennau’r awdurdod lleol ochr yn ochr â naratif Lemn yn ddigon i wneud i mi grïo oherwydd yr anghyfiawnder a ddogfennwyd. Mae’r cerddi ar ddechrau pob pennawd yn datgelu harddwch, doniau a gobaith y dyn hwn.”

Hackney Child

gan Hope Daniels

Argymhellir y llyfr hwn yn fawr iawn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu. Mae’n rhoi dealltwriaeth glir iawn o’r ffaith nad eich rôl fel gofalwr maeth yw trwsio, ond yn hytrach bod yn fodel rôl cadarn, caredig, dibynadwy a chydnerth i’r plentyn yn eich gofal.

Yn 1983, a hithau’n naw oed, cerddodd Hope Daniels i mewn i Orsaf yr Heddlu yn Stoke Newington gyda’i brodyr bach, a gofynnodd am iddynt gael eu cymryd i mewn i ofal. Roedd bywyd gartref yn annioddefol. Roedd rhieni Hope yn gaeth i alcohol a’i mam yn butain. Roedd plant y Daniels yn byw mewn tlodi difrifol. Roeddent yn cael eu hesgeuluso a phrin eu bod yn cael digon o faeth.

Mae’r llyfr hwn yn stori afaelgar am oroesi’n gorfforol ac yn emosiynol – a’r achubiaeth a roddwyd i Hope trwy gymorth gweithwyr proffesiynol a weithiai yn y system ofal. Mae’n hanfodol bod ei phrofiadau’n cael eu darllen, ac mae’r llyfr yn gyfrif gonest o hanes menyw ifanc yn tyfu i fyny yn y system ofal.

“Rydw i wedi gweithio yn y proffesiwn hwn (Gwasanaethau Cymdeithasol) er 27 mlynedd, ac wedi gweithio gyda sefyllfaoedd ofnadwy, ond gwnaeth y llyfr hwn i mi grïo! Hope, rwyt ti wir wedi cyffwrdd â ‘nghraidd i fel gweithiwr cymdeithasol. Llwyddodd y llyfr hwn i fy atgoffa bod plant yn dal  gafael ar atgofion a breuddwydion ac yn aml nad yw’r rhain ar radar gweithwyr cymdeithasol. Dylai unrhyw un sydd eisiau bod yn ymarferydd da ym maes gwasanaethau plant, ddarllen y llyfr hwn.”

– gweithiwr cymdeithasol
book on therapeutic fostering

The A-Z of Therapeutic Parenting: Strategies and Solutions

gan Sarah Naish

Argymhellir y llyfr hwn yn fawr iawn i ofalwyr maeth oherwydd mae’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’r heriau y mae plant mewn gofal yn eu hwynebu. Mae hefyd yn cynnig datrysiadau ymarferol wrth gynnig cymorth. Mae ei ffocws ar rianta therapiwtig ac mae hyn yn arbennig o berthnasol i ofalwyr maeth, gan y bydd llawer o’r plant yn eu gofal wedi profi trawma a thrallod a byddent yn elwa ar ddull therapiwtig o’u cefnogi.

Mae rhianta therapiwtig yn ddull rhianta sy’n meithrin yn ddwys ac mae’n arbennig o effeithiol i blant sy’n cael trafferth ffurfio ymlyniad.

Yn y llyfr hwn ceir 60 o’r problemau cyffredin y mae rhieni yn eu hwynebu, o ymddwyn yn ymosodol i drafferthion cysgu, a cheir cyngor am yr hyn a allai sbarduno’r materion hyn a sut i ymateb.

Mae’n hawdd ffeindio’ch ffordd drwy’r llyfr ac mae wedi’i ysgrifennu mewn ffordd syml iawn. Dyma lyfr y mae’n rhaid i bob rhiant a gofalwr therapiwtig ei gael.

book on fostering

Nurturing Attachments: Supporting Children who are Fostered or Adopted

gan Kim S. Golding

Os ydych chi’n ofalwr maeth sydd eisiau dealltwriaeth ddyfnach o ymlyniad a sut y gall helpu’r plant yn eich gofal, yna mae’n werth i chi ychwanegu’r llyfr hwn at eich llyfrgell.

Mae awdur y llyfr yn arbenigwraig arweiniol ym maes ymlyniad ac mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd ymlyniad a rôl ymlyniad ym mywydau plant sydd mewn gofal. Mae’n cwmpasu camau amrywiol ymlyniad ac yn cynnig strategaethau ymarferol ar gyfer hyrwyddo ymlyniad cadarn ymhlith plant. Ceir arweiniad hefyd ynghylch sut i gefnogi plant a sut i weithio gyda theuluoedd biolegol er mwyn hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i blant sy’n derbyn gofal.

“Adnodd gwych i ddarpar-ofalwyr maeth. Un o’r llyfrau symlaf ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig os am ddeall theori ymlyniad. Rwy’n defnyddio’r llyfr hwn fel llyfr allweddol gyda darpar fabwysiadwyr  a gofalwyr maeth. Gellir addasu pob pennod fel deunydd darllen sy’n addas i sesiynau asesu unigol. Mae’n wych a dylai pob gofalwr maeth ei ddarllen ynghyd â gweithwyr proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol.”

– gweithiwr cymdeithasol
book for foster carers

Too Scared to Cry

gan Maggie Hartley

Dyma gofiant pwerus sy’n rhwygo’r galon, am brofiad yr awdur o fod yn ofalwr maeth i ddau blentyn bach a’u hanner-brawd a oedd yn fabi. Cyrhaeddodd y tri stepen ei drws yn rhy ofnus i siarad na hyd yn oed i ymateb. Maen nhw wedi cael eu cyflyru i gael eu gweld ond nid eu clywed, ac mae i fyny i Maggie i ddadwneud yr hyn sydd wedi achosi’r bwlch ofnadwy hwn yn eu bywydau.

Trwy gydol y llyfr mae Maggie’n cynnig cyfrif gonest a di-flewyn-ar-dafod o’i phrofiadau fel gofalwr maeth a’r effaith emosiynol y gall gofalu am blant sydd wedi cael eu cam-drin ei chael. Mae’n rhoi cipolwg ar wirioneddau cam-drin plant ac esgeuluso plant a’r effaith barhaus y mae hyn yn gallu ei chael ar blant.

Un o gryfderau’r llyfr hwn yw ei ffocws ar y broses o wella plant sydd wedi dioddef esgeulustod a chamdriniaeth. Mae Maggie’n ofalwr maeth trugarog a medrus sy’n gweithio’n ddiflino i helpu brodyr a chwiorydd bach i oresgyn eu trawma, ac mae’r llyfr yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’r dulliau a’r technegau therapiwtig y gellir eu defnyddio i helpu iachâd plant.

great books on fostering

Fifty-One Moves

gan Ben Ashcroft

Dyma gofiant am blentyndod yr awdur; plentyndod sy’n llawn esgeulustod ac anrhefn. Mae’n gofiant sy’n taro ergyd galed. Diolch i’r ffordd y llwyddodd i wyrdroi ei fywyd, a’r bywyd cadarnhaol sydd ganddo erbyn hyn fel oedolyn, mae hon yn stori anhygoel sy’n llawn ysbrydoliaeth.

Mae awdur Fifty-One Moves wedi bod yn blentyn sy’n derbyn gofal. Dyma’i gyfrif byw o’i brofiadau mewn 37 sefydliad gwahanol. Aeth Ben i mewn i’r system ofal maeth yn naw blwydd oed. Ar y cyfan – ac fel y mae teitl y llyfr yn ei awgrymu – symudwyd Ben 51 o weithiau o’i leoliad cyntaf hyd nes iddo adael gofal yn 16 mlwydd oed, wrth iddo lithro i mewn i gystodaeth gosb. Yn ystod ei lencyndod, brwydrodd yn erbyn troseddau a chyffuriau a threuliodd gyfnodau mewn sefydliadau i droseddwyr ifainc. Barn ei Weithwyr Cymdeithasol oedd na fyddai ganddo lawer o ddyfodol.

Erbyn hyn mae Ben yn siaradwr sy’n ysgogi pobl eraill ac mae’n enghraifft gadarnhaol o’r ffordd y gall rhywun newid. Wedi rhoi’r gorau i gyffuriau ac aros allan o drwbl am 10 mlynedd, mae wedi cyhoeddi llyfr am ei fagwraeth boenus ac yn rhoi’r elw i elusen y mae’n gweithio gyda hi i atal pobl ifanc eraill rhag dilyn y trywydd anghywir. Mae ei lyfr yn atgof na ddylid fyth roi i fyny, ac na ddylid fyth roi i fyny ar bobl.

book on fostering

Unwanted

gan Cathy Glass

Dyma gofiant pwerus am brofiad yr awdur o faethu merch ifanc o’r enw Lara, a’i mab Arthur a oedd yn flwydd oed. Daethant i fyw gyda Cathy yn ystod y pandemig. Roedd Lara yn dianc rhag perthynas gamdriniol ac roedd yna amheuaeth fod gan Arthur anafiadau nad oeddent yn rhai damweiniol. Honnai Lara fod ei mab yn dueddol o gael llawer o ddamweiniau ond roedd gan y gwasanaethau cymdeithasol eu hamheuon.

Ar ei gwefan, meddai’r awdur: ‘Roedd yn lleoliad maethu mam a phlentyn. Fy rôl i oedd cadw Arthur yn ddiogel, asesu gallu Lara i rianta a rhoi cymorth a chyngor iddi yn ôl yr angen, yn y gobaith y gallai wneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn iddi allu cadw ei mab. Teimlais y cyfrifoldeb, yn enwedig gan fod yr holl ‘ymweliadau’ gan Weithwyr Cymdeithasol yn digwydd ar-lein oherwydd y cyfyngiadau Covid parhaus. Roeddwn i’n teimlo bod dyfodol Lara yn fy nwylo i.’

Mae’r llyfr hwn gan awdur sydd wedi gwerthu gyda’r gorau, yn dangos sut y mae maethu rhiant a baban yn gallu gofyn am lawer gan y gofalwr ond yn gallu bod yn hynod o werth chweil ar yr un pryd. Mae Cathy yn ofalwr maeth trugarog ac ymroddgar sydd wir yn poeni am y plant a’r bobl ifanc yn ei gofal, ac mae ei phenderfynoldeb i helpu Lara yn ysbrydoli ac yn rhwygo’r galon.

Yng ngeiriau un o’r darllenwyr:

“Roedd y stori hon yn emosiynol iawn ac mae’n dangos sut y mae gofal maeth wir yn gallu gweddnewid bywydau. Mae pob gofalwr maeth ymroddgar yn arwr heb glogyn, yn caru’r plant hyn ac yn gwneud eu gorau glas i’w cefnogi tra bod y system yn clymu eu dwylo.”

The Book You Wish Your Parents Had Read (and Your Children Will Be Glad That You Did)

gan Phillipa Perry

Llyfr yr argymhellir yn fawr i rieni, darparwyr gofal ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella’u perthynas â’u plant, ei ddarllen. Mae awdur y llyfr hwn yn seicotherapydd ac mae’r llyfr yn cynnig persbectif newydd ar fagu plant, gan ganolbwyntio ar y modd y gall rhieni ddatblygu dealltwriaeth fanylach ohonynt eu hunain a’u plant er mwyn meithrin cydberthnasau cryf ac iach.

Wrth galon y llyfr hwn mae’r syniad fod y berthynas rhwng rhiant a phlentyn yn berthynas ddwy ffordd. Pwysleisia Perry mor bwysig ydyw i rieni fod yn agored i ddysgu gan eu plant a chydnabod nad dim ond derbynwyr goddefol addysg ac arweiniad eu rhieni yw plant, ond yn hytrach fod ganddynt eu persbectifau a’u profiadau unigryw eu hunain.

Trwy gydol y llyfr, mae Perry’n defnyddio enghreifftiau o fywyd go iawn, o’i gwaith ei hun gyda chleientiaid a’i theulu ei hun, yn ogystal ag ymchwil o niwrowyddoniaeth, seicoleg a chymdeithaseg, er mwyn arddangos ei phwyntiau. Mae’n cwmpasu ystod o destunau, gan gynnwys sut i gyfathrebu’n effeithiol â phlant, sut i osod ffiniau iach a sut i adnabod a rheoli eich emosiynau eich hun fel rhiant/gofalwr.

Un o’r pethau allweddol i’w cymryd o’r llyfr hwn yw pwysigrwydd empathi a dealltwriaeth wrth feithrin cydberthnasau cryf gyda phlant.

I grynhoi

Waeth a ydych chi’n ofalwr maeth, yn ystyried dod yn ofalwr maeth neu’n dymuno dysgu mwy am ofal maeth, mae’r llyfrau hyn yn rhoi mewnwelediad a gwybodaeth am heriau a phleserau’r system ofal maeth, sydd wir yn werthfawr. Maen nhw’n cynnig ystod eang o bersbectifau a phrofiadau ac yn ffordd wych o ddysgu mwy am y mater cymdeithasol pwysig hwn. Mwynhewch y darllen!

A oes gennych chi gwestiynau am faethu?

Os ydych chi’n byw yn Nhorfaen, Cymru, beth am anfon neges atom? Fe ddown yn ôl atoch cyn gynted â phosibl. Neu, gallwch ein ffonio ni ar 01495 766669 am sgwrs gyfeillgar, heb ymrwymo i unrhyw beth.

Os ydych chi’n byw mewn ardal arall o Gymru, rhowch glic ar wefan Maethu Cymru, lle cewch hyd i’r holl wybodaeth angenrheidiol am faethu a manylion cyswllt gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol.

Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn yn eich cymuned leol, sy’n rhoi buddion gorau plant wrth galon pob peth a wnânt.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch