pam maethu gyda ni

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Mae bod yn ofalwr maeth gyda’ch tîm Maethu Cymru Torfaen yn golygu y byddwch yn cael lwfansau ariannol hael a defnyddiol iawn. Mae’r rhain yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys y math o faethu y byddwch chi’n ei wneud, faint o blant y byddwch chi’n eu maethu ac am faint o amser y byddwch chi’n maethu.

Er enghraifft, ar hyn o bryd yn Nhorfaen mae gennyn ni ofalwyr maeth sy’n derbyn £604 yr wythnos am ofalu am ddau berson ifanc rhwng 11 ac 16 oed.

manteision eraill

Mae llawer mwy o fanteision i fod yn rhiant maeth nag y byddech chi’n ei feddwl. Ynghyd â’r gefnogaeth a’r lwfansau rydyn ni eisoes wedi’u crybwyll, yn Nhorfaen, byddwch chi hefyd yn cael:

  • Cerdyn MAX – mynediad am ddim ac am bris gostyngol i atyniadau yn y DU
  • Cefnogaeth gan seicolegydd clinigol a’r opsiwn i drefnu ymgynghoriadau
  • Arweiniad, cefnogaeth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cymorth (Mhyst)
  • Adnoddau dysgu cynhwysfawr, gan gynnwys hyfforddiant ar-lein a rhithwir, podlediadau, gweithdai a benthyciadau llyfrau
  • Gwasanaeth cefnogaeth y tu allan i oriau dros y ffôn
  • Grwpiau cefnogi misol, wedi’u teilwra ar gyfer eich anghenion chi
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd y byddwch bob amser yn cael eich gwahodd iddynt. Mae’r rhain yn helpu i ddod â chi’n agos at deuluoedd maeth eraill. Maent hefyd yn gyfle i chi gael profiadau newydd ac adeiladu eich rhwydweithiau
  • Tocynnau am ddim i wylio gemau cartref Clwb Rygbi Pont-y-pŵl (yn amodol ar argaeledd)
  • Cynllunio Lleoliad Cyfarfodydd gyda gofalwyr maeth i ddeall yn well anghenion unigryw plant cyn iddynt gael eu lleoli

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Mae hyd yn oed mwy! O Ynys Môn i Gaerdydd, mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i’r Ymrwymiad Cenedlaethol. Pecyn o gefnogaeth, hyfforddiant a manteision y cytunwyd arno yw hwn, sydd ar gael i bob gofalwr maeth yng Nghymru. Pan fyddwch chi’n ofalwr maeth, byddwch yn elwa o’r canlynol:

Group of happy teenagers laughing sitting in group on floor

un tîm

Mae tîm Maethu Cymru yn eich ardal yn gweithio gyda chi, y plant maeth a phob gweithiwr proffesiynol o amgylch y plentyn. Mae hyn i gyd yn rhan o’r un gwasanaeth, gan ein bod ni i gyd yn rhan o’r Awdurdod Lleol.

Rydych chi’n rhan hanfodol o’r tîm hwn. Byddwch chi wastad yn cael eich cynnwys. Byddwch chi wastad yn cael eich gwerthfawrogi. Byddwch chi wastad yn cael eich parchu. Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd.

Mae ein hymrwymiad i gysylltiad yn sicrhau’r dyfodol gorau posibl i bob plentyn yn ein gofal, yn ogystal â’u teuluoedd maeth.

Fel rhan o’r tîm hwn, rydych chi’n ymuno â grŵp o bobl ymroddedig. Pobl sy’n gyfrifol am ofalu am bob plentyn a’u helpu i aros yn eu hardal leol. Cysylltiad ac ymroddiad yw beth sy’n gwneud y tîm hwn yn unigryw.

Adult tying childs shoe lace

dysgu a datblygu

Rydyn ni yma i’ch helpu chi i dyfu. Ledled Cymru, mae gennyn ni fframwaith a gwasanaethau cyson i’ch helpu i ddatblygu. Drwy wneud hyn, rydych chi’n gwybod eich bod chi’n elwa o becyn cymorth sydd wedi’i ystyried a’i brofi ac sy’n cael ei rannu’n eang. Mae’r cyfleoedd hyn ar gyfer dysgu a thyfu yn rhan allweddol o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig i chi.

Mae’r adnoddau a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i ddiwallu anghenion y plant yn eich gofal yn cael eu darparu’n llawn gennyn ni. Mae’r rhain yn eich helpu i fod yn hyderus ac yn abl.

Mae gan bob gofalwr maeth gyda Maethu Cymru gofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu. Bydd gennych chi un hefyd. Mae hyn yn helpu i adnabod y sgiliau a’r profiadau trosglwyddadwy gwerthfawr rydych chi wedi’u hennill yn ystod eich taith, yn ogystal â’r rheini y gwnaethoch chi ddechrau â nhw. Mae’n cadw golwg ar y cynnydd rydych chi wedi’i wneud er mwyn i ni allu helpu i gynllunio ar gyfer eich dyfodol.

Adult helping young boy with homework sitting at table

cefnogaeth

Cofiwch – dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae gennych chi eich tîm Maethu Cymru i’ch cefnogi chi ac i’ch annog chi drwy gydol y broses hon.

Bydd gennych chi weithiwr gofal cymdeithasol profiadol o’r Tîm Lleoliadau Teulu wrth law i chi, eich teulu a phawb sy’n ymwneud â gofalu am y plentyn.

Mae grwpiau cefnogi wastad ar gael i chi gael gafael arnyn nhw. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys cyd-ofalwyr maeth, ac maen nhw’n gyfle i chi gyfarfod a rhannu eich profiadau unigryw. Mae’r cymorth hwn gan gymheiriaid yn gallu bod yn fuddiol iawn, gan arwain at gyfeillgarwch parhaol. Mae amrywiaeth o grwpiau cefnogi ar gael, o grwpiau cefnogi i ddynion a merched a mathau arbenigol o ofalwyr maeth. Byddwch chi’n ffurfio cysylltiadau newydd ac yn dod o hyd i gymunedau newydd yma. Pobl fel chi. Pobl sy’n deall.

Mae’r gefnogaeth broffesiynol orau ar gael i chi hefyd, pryd bynnag y bydd ei hangen arnoch chi. Dydyn ni ddim yn golygu yn ystod oriau swyddfa yn unig. Mae ein tîm ymroddedig wedi ymrwymo i weithio gyda phob gofalwr maeth, ddydd a nos. Pryd bynnag a ble bynnag y bydd angen cymorth arnoch chi. Rydyn ni yma i chi.

Blonde child in mother's arms is looking up to sky

y gymuned faethu

Byddwch chi wastad mewn cysylltiad.

Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd y byddwch chi wastad yn cael eich gwahodd iddyn nhw. Mae’r rhain yn helpu i ddod â chi’n agos at deuluoedd maeth eraill. Maen nhw hefyd yn gyfle i chi gael profiadau newydd a datblygu eich rhwydwaith.

Ar ben hyn, mae cyfoeth o gyngor a gwybodaeth ar-lein y gallwch chi gael gafael arnyn nhw unrhyw adeg fel gofalwr maeth Maethu Cymru.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn ni’n talu i chi fod yn aelod o’r Gymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru (AFA Cymru) a’r Rhwydwaith Maethu (TFN). Mae’r rhain yn sefydliadau maethu arbenigol sy’n cynnig cyngor, arweiniad, cefnogaeth a llawer o fanteision eraill.

Gyda’r wybodaeth, y gefnogaeth a’r cysylltiad yma, fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun. Rydyn ni yma i chi.

Close up portrait of young girl laughing

llunio’r dyfodol

Rydyn ni’n credu fod taith pob plentyn maeth a rhiant maeth yn hynod o bwysig. Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn edrych i’r gorffennol yn unig. Y cam pwysicaf yw eich cam nesaf – felly rydyn ni’n canolbwyntio’n bennaf ar y presennol a’r dyfodol. Chi sy’n cael llunio’r dyfodol hwn fel gofalwr maeth.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich barn a’ch safbwyntiau. Byddan nhw bob amser yn cael effaith ar sut rydyn ni’n symud ymlaen ac yn gwella. P’un ai yw’n lleol, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol, bydd eich llais wastad yn cael ei glywed. Byddwch chi’n cael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, a byddwch chi’n cael cyfleoedd i ddylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru.

Woman and young girl using computer to make video call

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’n tîm maethu cymru lleol