trosglwyddo i ni

dewiswch faethu cymru torfaen

Mae Maethu Cymru Torfaen yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu 22 Awdurdod Lleol Cymru, pob un yn gweithio gyda’i gilydd tuag at yr un nod.

Ym Maethu Cymru rydym ni’n ymwneud â phobl. Ein nod yw cefnogi a grymuso gofalwyr maeth a chreu’r dyfodol gorau posibl i blant lleol – nid gwneud elw.

Os ydych chi’n ofalwr maeth eisoes ond ddim yn maethu fel rhan o’ch Awdurdod Lleol, gallwch drosglwyddo atom Maethu Cymru.

manteision maethu gydag awdurdod lleol

Trwy ymuno â Maethu Cymru Torfaen, rydych chi’n dod yn rhan o dîm. Rydym ni’n gyfrifol am bob plentyn a pherson ifanc sydd angen gofal maeth, felly anghenion ein plant yw ein prif flaenoriaethau. Rydym yn gofalu amdanyn nhw, nid am elw.

Rydym yn cynnig i chi sgiliau ac arbenigedd holl dîm Maethu Cymru, ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol profiadol penodol i’ch cefnogi pryd bynnag fydd angen.

Mae Maethu gyda’ch Awdurdod Lleol yn hyblyg. Gallwch ddewis y mathau o faethu yr ydych yn ei wneud a’r math o blant mae’n well gyda chi edrych ar eu hôl, o fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau.

transfer to foster wales

yr hyn yr ydym yn ei gynnig ym maethu cymru torfaen

  • Lwfansau ariannol hael. Er enghraifft, yn Nhorfaen nawr mae gennym ofalwyr maeth sy’n derbyn £604 yr wythnos am ofalu am ddau berson ifanc 11 a 16 oed. Darllenwch fwy am dâl i ofalwyr maeth yma.
  • Cefnogaeth seicolegydd clinigol a’r dewis i fwcio ymgynghoriadau
  • Cymuned groesawgar a chefnogol o ofalwyr maeth sy’n cynnig mentora a chefnogaeth unigol gan gymheiriaid
  • Cyfarwyddyd, cefnogaeth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cefnogol (Mhyst) – dewis amgen effeithiol i ofal preswyl i blant sydd mewn gofal ag anghenion cymhleth iawn
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd y byddwch yn cael eich gwahodd iddynt
  • Cerdyn MAX – mynediad am ddim ac â gostyngiad i atyniadau ledled y DU

Darllenwch fwy am gefnogaeth a gwobrau yma.

"Rydym yn credu bod gan yr Awdurdod Lleol fwy o gyfleoedd i faethu ar gyfer ein teulu ni, ond roedd yr Asiantaeth yn gyfyngedig."

gofalwyr maeth awdurdod lleol Torfaen

sut i drosglwyddo atom ni

Mae’r broses o drosglwyddo o’ch asiantaeth maethu bresennol i’r Awdurdod Lleol yn rhwydd.

Yn ein sgwrs gyntaf, byddwn yn trafod yn agored sut mae’r broses yn mynd i weithio i chi. Gan eich bod eisoes yn y byd maethu, bydd y broses yn un benodol i’ch amgylchiadau chi.

Rydym am wybod sut allwn ni eich cefnogi yn y ffordd orau yn y dyfodol, nodi unrhyw anghenion a sicrhau ein bod yn eich adnabod yn drylwyr ar gyfer paru yn y dyfodol, felly ym mhob un o’r camau isod, bydd y profiad yn unigryw i chi.

I wybod mwy, lawrlwythwch ein canllaw trosglwyddo sydd ar gael isod.

cael eich canllaw trosglwyddo

Cliciwch ar y botwm isod i dderbyn canllaw ‘Trosglwyddo atom Ni’ sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am fanteision trosglwyddo atom ni, sut mae’r broses yn gweithio a pham ddylech chi drosglwyddo at Faethu Cymru Torfaen.

gadewch i ni siarad am drosglwyddo i faethu cymru torfaen

Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Call 01495 766669

Cursor pointer icon Phone ringing icon Open envelope icon