ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Mae llawer o wahanol fathau o ofal maeth ond mae un peth yn gyffredin iddyn nhw i gyd – maen nhw’n cynnig cartref. Lle i deimlo’n ddiogel. Lle i ddysgu, lle chwerthin a lle llawn cariad. Lle i blentyn dyfu.

Gall maethu fod am gyfnod byr fel aros dros nos neu gall fod yn rhywbeth mwy parhaol. O seibiant byr i rywbeth mwy hirdymor, mae gwahanol ffyrdd o helpu.

Mae pob plentyn yn unigryw. Mae’r un peth yn wir am y gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw. Does dim dau deulu maeth yr un fath, chwaith.

Yma yn Nhorfaen, mae angen pob math o ofalwyr maeth arnon ni – ar gyfer plant ifanc. Ar gyfer brodyr a chwiorydd. Ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, a rhieni ifanc hefyd. Mae angen cariad a chefnogaeth ar y plant hyn i gyd, a’r cyfle i fod yn nhw eu hunain.

gofal maeth tymor byr

Foster Wales Torfaen

Mae maethu tymor byr yn gallu golygu unrhyw beth rhwng diwrnod a blwyddyn gyfan. Gallwch chi faethu am benwythnos neu fis. Yn yr achos hwn, mae’n golygu ein bod ni’n dal i wneud cynlluniau tymor hwy ar gyfer plentyn.

Two adults and two children having fun together outdoors

Pan fyddwch yn ofalwr maeth tymor byr gyda Maethu Cymru Torfaen, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i symud y plentyn tuag at eu cam nesaf. Mae tymor byr yn golygu y byddwch chi yno i helpu plentyn pan fydd eich angen chi arnynt. Byddwch chi yno, hyd yn oed pan fydd hi’n amser i’w helpu i symud at eu teulu, at deulu maeth arall neu i gael eu mabwysiadu.

Er ei fod yn gyfnod byr, mae arhosiad byr yn gallu cael effaith fawr. Mae’n gallu bod yn gam cyntaf ar daith wych sy’n gyffrous ac yn newydd sbon i bob plentyn yn ein gofal, yn ogystal â phob gofalwr maeth hefyd.

gofal maeth tymor hir

Os nad yw plentyn yn gallu byw gartref, mae gofal maeth tymor hir yn gallu bod yn deulu mewn cartref newydd.

Mae paru gofalus ac ystyriol ar waith ar gyfer gofal maeth tymor hir. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod y plentyn maeth cywir yn cael eu paru â’r gofalwr cywir cyhyd ag y bo angen. Mae’n golygu darparu amgylchedd diogel i blentyn. Cynnig lle parhaol i aros. Cartref. I bob plentyn, mae’n golygu teulu maeth sefydlog a chariadus – efallai am oes.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae pob math o ofal maeth yn cael ei drafod o dan benawdau tymor byr a thymor hir. Mae hyn yn cynnwys rhai mathau mwy arbenigol sydd angen math penodol o gymeradwyaeth, fel:

seibiant byr

Rydyn ni i gyd angen amser i ni ein hunain. Dyna pam fod seibiant byr ar gael. Mae hyn er mwyn i blant allu cael ychydig o amser oddi wrth eu teulu.

Mae lleoliadau i rieni a phlant yn caniatáu i chi rannu eich profiad eich hun fel rhiant. Gallwch chi rannu hyn â rhywun sydd wir angen eich cymorth. Rydych chi’n cael gofalu am genhedlaeth newydd fel eu bod nhw’n gallu gwneud yr un peth yn y dyfodol. Mae er mwyn i rieni allu datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn.

rhiant a phlentyn

Mae lleoliadau i rieni a phlant yn caniatáu i chi rannu eich profiad eich hun fel rhiant. Gallwch chi rannu hyn â rhywun sydd wir angen eich cymorth. Rydych chi’n cael gofalu am genhedlaeth newydd fel eu bod nhw’n gallu gwneud yr un peth yn y dyfodol. Mae er mwyn i rieni allu datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn.

gofal therapiwtig – Fy Nhîm Cymorth (MyST)

Weithiau, mae angen gwahanol fathau o ofal ar blant sydd ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol ychwanegol. Dyma rôl lleoliadau therapiwtig. Mae cefnogaeth ehangach ar gael i ofalwyr therapiwtig a’u plant, i helpu gyda’r holl agweddau unigryw ar ofal y plentyn. Bob tro.

Dyma clip byr o rai o’n gofalwyr maeth. Gael gwybod mwy: https://www.mysupportteam.org.uk/cy/maethu-therapiwtig/

llety â chymorth

Mae gadael cartref yn brofiad brawychus a chyffrous i unrhyw berson ifanc. Pan fydd person ifanc yn gadael gofal maeth neu os nad oes ganddo deulu i'w gefnogi, gall hyn fod yn fwy heriol.

Gallech helpu person ifanc 16-21 oed drwy ddarparu pont rhwng gofal a byw’n annibynnol. Byddech yn cefnogi’r person ifanc mewn ffordd debyg i letywr. Ni fyddech yn cael eich cofrestru fel gofalwr maeth a byddwch yn cael eich asesu’n wahanol.

Byddech yn cynnig ystafell wely sbâr iddo ond hefyd yn ei helpu i fynychu addysg a chwilio am swydd neu hyfforddiant a chyda sgiliau bywyd fel coginio a chyllidebu. Mae llety â chymorth yn ffordd wych o ddechrau gofalu am bobl ifanc, ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau eraill.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch