pam maethu gyda ni?

pam ein dewis ni?

pam ein dewis ni?

Dydyn ni ddim yn asiantaeth faethu gyffredin. Mae Maethu Cymru’n rhwydwaith o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol nid-er-elw ledled Cymru.

Beth sydd bwysicaf i ni yw creu gwell dyfodol i blant lleol. Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn gael y gorau o’r plant hyn. Ac ohonoch chi.

Mae ein dewis ni’n golygu dewis pwrpas, brwdfrydedd ac ymroddiad. Dim elw. Yma, yn Maethu Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth i greu’r dyfodol gorau posibl i blant yn eich cymuned. Dyna pam ein bod ni yma a gyda’n gilydd, rydyn ni’n ei wneud yn dda.

ein cenhadaeth

Ar hyd a lled Cymru, mae yna blant y mae angen ein help arnyn nhw. Mae angen eich help chi arnyn nhw hefyd. Gallwch chi wneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau pobl fel gofalwr maeth.

O fabanod, plant bach, plant yn eu harddegau, a brodyr a chwiorydd i rieni ifanc, mae gan bob plentyn stori unigryw i’w hadrodd – ond mae ein cenhadaeth ni yr un fath ar gyfer pob un. Eu helpu i dyfu a ffynnu.

ein cefnogaeth

Ni yw eich rhwydwaith cefnogi lleol a chyflawn. Byddwn ni’n eich arwain a’ch cefnogi drwy gydol eich taith.

Byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd. Ble bynnag y bydd eich taith faethu yn arwain. Bydd gennych chi wastad ein harbenigedd, ein cyngor, ein cefnogaeth a’n hyfforddiant penodol i’ch helpu i ffynnu yn y byd maethu.

ein ffyrdd o weithio

Mae Maethu Cymru’n cydweithio i greu’r dyfodol gorau posibl i blant lleol. Wrth galon hyn i gyd mae cysylltiad a chydweithio.

Dydyn ni byth yn bell i ffwrdd. Rydyn ni yn eich cymuned. Rydyn ni yma, pryd bynnag bydd arnoch ein hangen ni. Lle bynnag y bydd arnoch ein hangen ni.

Mae pob plentyn yn ein gofal yn unigolyn. Mae gan bob un ohonyn nhw anghenion unigryw. Rydyn ni’n deall fod pob gofalwr maeth yn unigolyn hefyd. Ein rôl ni yw eich helpu chi i fod y gorau y gallwch chi fod, drwy fod yn chi eich hun.

Rydyn ni’n annog ein gofalwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu talentau. Rydyn ni’n cefnogi eu twf a’u datblygiad, un cam ar y tro.

eich dewis

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru Torfaen, byddwch chi’n ymuno â chymuned o bobl sy’n gofalu. Pobl hynod fedrus ac ymroddedig. Pobl go iawn, fel chi, sy’n byw yn yr un ardal â chi. Sy’n deall y manteision a’r heriau sy’n gysylltiedig â bywyd bob dydd.

Siaradwch â’n tîm ymroddedig heddiw i ddechrau arni:

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch