sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Llongyfarchiadau! Rydych chi’n barod i gychwyn ar eich taith tuag at faethu. Ond faint o amser mae’r broses faethu yn ei chymryd yn Nhorfaen a beth allwch chi ei ddisgwyl?

y cam cyntaf

Mae’r cam cyntaf yn syml. Mae’n dechrau gydag ymholiad cychwynnol. Byddwch chi’n cychwyn ar eich taith faethu cyn gynted ag y byddwch chi’n codi’r ffôn i’n ffonio ni neu’n llenwi’r ffurflen gyswllt isod.

Efallai nad yw hyn yn teimlo fel llawer, ond mae’n ddechrau ar rywbeth rhyfeddol. Y cam pwysicaf y byddwch yn ei gymryd ar y daith hon.

yr ymweliad cartref

Ar ôl eich ymholiad cychwynnol, byddwn yn dechrau dod i’ch adnabod. Yn gyntaf, byddwn ni’n gwneud yn siŵr bod gennyn ni’r holl wybodaeth berthnasol amdanoch chi, eich teulu a’ch cartref sydd ei hangen arnon ni i roi trefn ar bethau. Yna, fe ddown ni i ymweld â chi. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn dechrau gyda galwad fideo anffurfiol.

Dyma’r cam lle byddwn ni’n dechrau dod i adnabod y bobl sydd bwysicaf i chi. Dyma lle rydyn ni’n cael gwybod mwy am eich cartref. Rydyn ni eisiau meithrin perthynas â chi. Mae hyn mor bwysig.

hyfforddiant

Yn ystod cam cyntaf eich hyfforddiant a’ch datblygiad, byddwch chi’n cael mwy o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi. Mae hyn er mwyn i chi fod yn siŵr mai dyma’r llwybr iawn i chi ei ddilyn. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â gofalwyr maeth sydd ar yr un cam yn eu proses faethu â chi.

Teitl y cwrs hyfforddi cyntaf hwn yw “Paratoi i Faethu” ond mae hefyd yn cael ei alw’n “Sgiliau Maethu”. Mae’n digwydd dros ychydig ddyddiau. Beth bynnag sy’n gweddu orau i’ch amserlen. Yma, byddwch chi’n datblygu gwybodaeth, cysylltiadau a chyfeillgarwch hirdymor.

yr asesiad

Nid prawf ydy’r asesiad. Mae’n gyfle i ni ddysgu mwy amdanoch chi a’ch teulu. Dyma gyfle i chi i gyd ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi a thrafod unrhyw beth sydd ar eich meddwl.

Byddwch chi’n dysgu beth fydd maethu yn ei olygu i chi. Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal gan weithwyr cymdeithasol medrus, a bydd yn ystyried cryfderau eich uned deuluol ac a oes yna unrhyw wendidau.

Mae i’ch helpu chi i baratoi ar gyfer y manteision a’r heriau sy’n gallu codi wrth faethu.

y panel

Mae gan bob tîm Maethu Cymru banel. Dyma lle mae’r holl wybodaeth o’ch asesiad yn cael ei hystyried. Ar y panel hwn mae gweithwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal â phobl annibynnol sy’n frwd dros faethu. Mae pob aelod yn hynod o wybodus a phrofiadol, a byddan nhw’n eich trin chi fel unigolyn.

Nid lle’r panel yw dweud “ie” neu “na” i’ch taith faethu. Maen nhw yno i edrych ar eich cais o bob ochr. Ar ôl i aelodau’r panel arsylwi arnoch chi, byddan nhw’n gwneud argymhellion ynglŷn â pha fath o faethu fyddai orau i chi.

Foster Wales Torfaen

y cytundeb gofal maeth

Unwaith y bydd eich asesiad wedi cael ei gymeradwyo gan y panel maethu, byddwn ni’n dangos y cytundeb gofal maeth i chi. Mae’r ddogfen hon yn nodi beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu. Mae’n rhoi gwybod i chi am eich cyfrifoldebau bob dydd yn ogystal â’r cymorth a’r arweiniad y byddwch yn eu darparu. Mae’r cytundeb hwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am yr arbenigedd a’r gwasanaethau y byddwn ni’n eu cynnig i chi fel eich rhwydwaith cefnogi.

Woman and young girl using computer to make video call

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch