Dyw’r awdurdod lleol ddim yn gwneud elw o gwbl o faethu, a oedd yn bwysig iawn i mi.
Daeth Ashleigh’n ofalwr maeth yn 2018 ac mae hi wedi rhoi lleoliadau tymor byr, seibiant a thymor hirach i blant 6-17 oed. Mae hi wedi ei chymeradwyo ar hyn o bryd i ofalu am 2 o blant sy’n cynnwys bod yn ofalwr MyST i 1 plentyn. Siaradon ni ag Ashleigh am ei phenderfyniad i faethu gyda’r awdurdod lleol a’r hyn mae hi’n ei gynnig fel gofalwr maeth.
Beth wnaeth eich arwain chi i fod yn ofalwr maeth?
“Roeddwn i eisoes yn gweithio yn y maes gyda phlant bregus, ond er mor werth chweil oedd hynny, roeddwn i’n gwybod fy mod i am wneud mwy. Roeddwn i’n gweld plant oedd angen lle diogel, oedolyn cyfrifol i helpu eu harwain nhw a chartref cariadus, gofalgar ac roeddwn i’n gwybod bod y sgiliau gen i i gynnig hynny. Roedd gen i nifer o ffrindiau oedd yn maethu hefyd, ac roedden nhw’n gwneud i’r peth edrych yn hawdd ac yn hwyl!! Roedd yna un person ifanc yn arbennig, serch hynny, a oedd yn sbardun. Roeddwn i wedi bod yn gweithio gyda nhw am 2 flynedd ac wedi datblygu perthynas i’r pwynt yr oedden nhw’n datgelu gwirionedd eu bywyd gartref. Edrychais i ar y ffyrdd atgyfeirio arferol ond, oherwydd eu bod yn 16, ychydig iawn o gefnogaeth oedd ar gael ac roeddwn i am fynd â nhw adref, ond doeddwn i ddim yn gallu. Roeddwn i’n gwybod bryd hynny fy mod i am fod yn ofalwr maeth er mwyn helpu pobl fel nhw.”
Pam ddewisoch chi faethu i’r ALl a pha gefnogaeth ydych chi’n cael?
“Roedd yr awdurdod lleol yn ddewis allweddol i mi wrth ddod yn ofalwr maeth ac fe ystyriais bob dewis. Er fy mod i, ar y pryd, yn gallu cael mwy o arian gydag asiantaeth, (nid felly mae pethau nawr – mae taliadau maeth yn gydradd ar draws y sector, ac mae hynny’n gywir, Ni ddylai neb wneud elw o blant bregus), roedd yr awdurdod lleol yn cynnig amodau a oedd yn gweddu’n well at fy anghenion a fy mhersonoliaeth. Yn gyntaf, dyw’r awdurdod lleol ddim yn gwneud elw o gwbl o faethu, a oedd yn bwysig iawn i mi. Hefyd, rwy’n ofalwr maeth sy’n sengl ac yn gweithio ac roedd fy ngwaith yn hynod o bwysig i mi, gan fy mod i’n helpu mwy o blant na’r rheiny rwy’n eu maethu (ac mae gwaith yn bwysig oherwydd dyw’r arian maethu ddim mor sefydlog â gwaith cyflogedig traddodiadol – mae biliau i’w talu!). Mae’r awdurdod lleol yn gweithio o gwmpas eich ymrwymiadau gwaith (er, fe es i weithio’n rhan amser, a buaswn i bob amser yn annog hyn!) ac maen nhw’n gwbl gefnogol i fy ngwaith ac yn deall ei bwysigrwydd ac maen nhw’n fodlon trefnu cyfarfodydd o amgylch fy ngwaith. Mae lefel y gefnogaeth gan yr awdurdod lleol yn well, gan fod yna dîm anferth yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol, Gweithwyr Cymdeithasol y plant a phobl broffesiynol eraill, ac mae pob un yn eich adnabod chi a’ch plant. Gallaf ffonio’r llinell ddyletswydd ar unrhyw adeg ac mae’r person ar yr ochr arall bobl amser fel petaent yn gwybod pwy ydw i ac maen nhw’n barod i helpu, yn llawen ac yn gefnogol!
Yr elfen fwyaf allweddol i mi oedd y broses baru; trwy faethu gyda’r awdurdod lleol, mae gennych gyfle gwella i gael cyfuniad gwell â phlant, gan eu bod yn ceisio canfod cartrefi’n fewnol cyn chwilio rhywle arall. Mae paru da mor bwysig a gall olygu’r gwahaniaeth rhwng amgylchedd llwyddiannus yn y cartref neu un sy’n fwy o bwysau. Mae tîm yr awdurdod lleol yn wych wrth wybod eich sgiliau, eich personoliaeth ac wrth baru plant a fyddai’n elwa ac yn ffynnu o fod yn eich gofal, sy’n arwain yn y pen draw at brofiad mwy gwerth chweil a chadarnhaol i bawb!
Mae’r awdurdod lleol yn rhoi cefnogaeth ymarferol enfawr, er enghraifft, grwpiau cefnogaeth rheolaidd, boreau coffi, digwyddiadau teuluol, mentora (arbennig o ddefnyddiol!) a chyfres o gyrsiau hyfforddiant. Mae yna linell ddyletswydd y tu allan i oriau sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos tan 12pm pan fydd y swyddfa ar gau a llinell argyfwng ar ôl 12pm. Mae eich Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol yn rhoi llawer iawn o gefnogaeth, felly hefyd y tîm ehangach. Fel gofalwyr maeth therapiwtig MyST, rydych yn cael cefnogaeth ymarferol cofleidiol 24 awr hefyd a mynediad at fwy o gefnogaeth seicolegol ddwys.”
Sut beth yw bod yn ofalwr maeth, a phlant o ba oedran ydych chi’n maethu?
“Bod yn ofalwr maeth yw’r peth mwyaf gwerth chweil yr wyf yn ei wneud. Rwy’n gallu gweld y gwahaniaeth rwy’n gwneud pan rwy’n cael gweithio gyda phlant dros gyfnod hir. Rwyf wedi bod yn ofalwr maeth prif ffrwd ers 6 mlynedd ac, yn ddiweddar, rwyf wedi dod yn ofalwr MyST, felly rwy’n maethu plant sydd ag anghenion emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol cymhleth. Rwy’n maethu plant 5-18 oed ond rwy’n canolbwyntio ar blant hŷn fel arfer. Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn hwyl – unwaith yr ydych yn chwalu’r rhwystrau sydd ganddynt! Rwy’n credu eu bod yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi gan eu bod yn fwy annibynnol, maen nhw eisiau oedolyn y gallan nhw ymddiried ynddynt a dibynnu arnyn nhw, nid math o ‘riant’, cartref diogel y gallan nhw ddychwelyd ato a digon o fwyd ar gael y rhwydd!”
Pa foment maethu arbennig sydd wedi aros gyda chi?
“Mae yna ormod i ddweud amdanynt! Rwy’n credu, ymhlith y pethau cofiadwy, mae’r tro cyntaf y daeth plentyn ataf i am y tro cyntaf am gysur ar ôl colli eu tymer ac yn eisiau sicrwydd. Sylweddolais i fy mod i wedi dod yn berson diogel i’r plentyn hwnnw. Mae’r tro cyntaf mae plentyn yn dweud wrthych chi eu bod yn eich caru chi bob amser yn anhygoel oherwydd rydych yn gwybod eu bod wedi datblygu ymlyniad atoch chi, sy’n golygu eu bod yn teimlo’n ddiogel. Roedd digwyddiad doniol pan oeddwn i’n dysgu person ifanc sut i lenwi bath ac ar ôl 10 munud fe ddaethon nhw ataf i’n gwbl ddryslyd gan ddweud na fyddai’r dŵr yn aros yn y bath…roeddwn i wedi anghofio dweud wrthyn nhw i roi’r plwg yn y bath!!! Fe wnaeth y ddau ohonom ni chwerthin yn uchel!”
Pwysigrwydd hunanofal
“Hunanofal yw un o’r pethau pwysicaf er mwyn i ofalwr maeth fod y gorau y gallan nhw fod. Rwy’n ei weld yn ddyletswydd arnaf i, i fi fy hun ac i’r plant, i fod yn feddyliol dda a gwydn fel y gallan nhw ddibynnu arnaf i. Dyma un o’r pethau y bydd gofalwyr maeth yn ei esgeuluso’n aml oherwydd eu bod nhw’n rhy brysur yn rhoi i eraill! Dyw hunanofal DDIM yn foeth a dyw cymryd amser i ofalu am eich lles ddim yn ddiog nac yn golygu eich bod yn esgeuluso’ch dyletswyddau – mae’n hanfodol – mae’n dangos tosturi i chi’ch hunan. Dyw hi ddim bob amser yn hawdd cael hyd i amser ond rwy’n mynd i redeg (cerdded yn gyflym mewn gwirionedd!) 4 gwaith yr wythnos ac rwy’n trefnu cyfarfodydd o amgylch hyn. Rwy’n rhoi blaenoriaeth i gyfarfod gyda ffrindiau a theulu bob rhyw ychydig o wythnosau, fel fy mod i’n cael amser i fi fy hun. Dros y blynyddoedd, rwy’ wedi dysgu gofyn am yr amser yma ac am gefnogaeth i’w gael!”
Gwobrau a heriau
“Mae yna gymaint o wobrau a heriau, ond mae gweld plant yn datblygu ac yn dechrau teimlo’n ddiogel gyda chi yn un o’r gwobrau mwyaf. Mae’r teimlad o lwyddiant a chwalu’r muriau o ddiffyg ymddiriedaeth; does dim byd gwell!
Gwobr anferth arall yw gweld y plant rwyf wedi gofalu amdanynt yn symud i rywle gwell, boed hynny’n dychwelyd adref neu’n symud trwy gyfnod anodd ac mae gwybod fy mod i wedi dylanwadu eu gallu i reoli hynny, yn wych!
Yn aml, amser yw’r her fwyaf – dyw hi ddim yn swydd, mae’n ffordd o fyw ac yn un sy’n effeithio ar bob agwedd ar fy mywyd. Mae gofyn am lawer o drefn i gydbwyso blaenoriaethau gwahanol, yn enwedig gyda theulu ehangach a ffrindiau! Mae gwneud yn siŵr fod gan fy nheulu a fy ffrindiau ddealltwriaeth o faethu’n hanfodol i fy nghefnogi i gyda hyn ac mae gwneud yn siŵr fy mod i’n cymryd amser i flaenoriaethu’r perthnasau hynny hefyd yn allweddol – neu rydych yn cael eich ynysu a dyw hynny ddim yn llesol i unrhyw un!
Yr her fawr arall i fi yw’r ymlyniad emosiynol rwy’n teimlo tuag at y plant rwy’n gofalu amdanynt! Rwy’ bob amser ynghlwm yn llwyr ac, er fy mod i’n credu bod hynny’n fy ngwneud yn ofalwr maeth da ac mae’r plant yn gwybod eu bod yn cael eu caru, mae’n gallu bod yn heriol yn emosiynol pan fyddan nhw’n gadael i fynd rhywle arall a phan rydych yn gwybod fod gyda nhw eu teulu eu hunain a fydd bob amser yn flaenoriaeth cyn chi! Rwy’n credu bod cael perthynas dda gyda’u teuluoedd genedigol yn helpu’n fawr gyda hyn. Rwy’n credu bod deall bod bywydau teuluoedd genedigol yn aml yn gallu bod yn anodd iawn ac mae eich gweld chi fel rhan o’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i deulu ehangach y plentyn yn hwyluso perthnasau cadarnhaol ac mae’n eu helpu nhw i’ch gweld chi fel rhywun sy’n rhoi gofal i’w plentyn. Mae hyn hefyd yn fy helpu i reoli fy lles emosiynol fy hun.”
Beth fyddech chi’n dweud wrth unrhyw un sy’n ystyried bod yn ofalwr maeth?
“Os ydych chi’n meddwl bod yn ofalwr maeth, dyma’r cyngor gorau buaswn i’n rhoi i chi:
- Darllenwch gymaint ag y gallwch am rianta therapiwtig ac ymlyniad.
- Magwch ddealltwriaeth a dysgwch sut i weithio mewn ffordd gadarnhaol gyda theuluoedd genedigol.
- Mae angen hyblygrwydd ar bobl ifanc yn eu harddegau ond, hefyd, maen nhw’n gallu rhoi mwy o hyblygrwydd i chi na phlant iau ac maen nhw’n llawer o hwyl.
- Ystyriwch o ddifri eich rhwydwaith cefnogaeth ehangach a sicrhewch eu bod yn deall beth allai hyn olygu i chi a’ch amser.
- Siaradwch â gofalwyr maeth eraill ynglŷn â sut beth yw maethu go iawn, dydd i ddydd.
- Meddyliwch am eich bywyd ar hyn o bryd a sut byddwch chi’n rhoi lle i blentyn a fydd â mwy o anghenion na phlant eraill h.y. os ydych chi’n gweithio – a allwch chi fynd i weithio rhan amser? Pa mor hyblyg yw eich amser? Ble gallwch chi gyfaddawdu?
- Ystyriwch o’r cychwyn cyntaf beth fyddwch chi’n gwneud i edrych ar ôl eich hun a rhowch flaenoriaeth i hynny.
- GWNEWCH! Mae angen mwy o ofalwyr maeth arnom ni ac mae’n un o’r pethau mwyaf gwerth chweil y byddwch yn ei wneud byth!”
Os hoffech chi wybod mwy am faethu gyda’ch awdurdod lleol, ewch i https://fosterwales.torfaen.gov.uk/cy/ neu cysylltwch i ofyn am alwad ffôn a dechreuwch y sgwrs am eich taith at faethu:
E-bost: fosterwalestorfaen@torfaen.gov.uk
Ffôn: 01495 766669