pwy all faethu?
Mae pob plentyn yn wahanol, felly hefyd y gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw.
dysgwych mwycydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Rydyn ni’n credu mewn cydweithio, rhannu gwybodaeth a chreu dyfodol gwell i blant – gyda’n gilydd.
Ni yw Maethu Cymru Torfaen, rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 nid-er-elw gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Mae pob plentyn yn wahanol, felly hefyd y gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw.
dysgwych mwyGall maethu fod am gyfnod byr fel aros dros nos neu gall fod yn rhywbeth mwy parhaol. O seibiant byr i rywbeth mwy hirdymor, mae gwahanol ffyrdd o helpu.
beth sy'n iawn i chi?Mae maethu’n golygu gwneud gwahaniaeth i blant lleol yn eich cymuned. Nawr. Mae penderfynu bod yn ofalwr maeth yn golygu gwneud rhywbeth gwych.
Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru Torfaen, byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol gwell i blant lleol. Rydyn ni’n darparu hyfforddiant arbenigol, cyngor, cymorth pwrpasol ac amrywiaeth o fanteision. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Nesaf, byddwn ni’n dangos i chi sut mae cymryd y camau cyntaf ar eich taith faethu a beth allwch chi ei ddisgwyl ar hyd y daith.
dysgwych mwyOnd beth yn union yw maethu, a sut mae’n gweithio? Dyma’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn i ni drwy’r amser.
dod o hyd i'r atebion