sut mae'n gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Mae maethu yn Nhorfaen yn llawer mwy cysylltiedig nag y byddech chi’n ei ddisgwyl. Mae gennyn ni rwydwaith pwrpasol sy’n cynnig arbenigedd, cymorth proffesiynol ac arweiniad.

gwell gyda’n gilydd

Rydyn ni’n cefnogi plant maeth a’u teuluoedd maeth. Rydyn ni hefyd yn cefnogi’r gweithwyr proffesiynol medrus, fel gweithwyr cymdeithasol, sy’n gweithio gyda ni bob dydd.

Dim ond oherwydd bod Maethu Cymru yn gweithio gyda’i gilydd ym mhob Awdurdod Lleol y mae’r lefel uchel hon o gefnogaeth yn bosibl. Mae’n gydweithrediad o 22 o sefydliadau nid-er-elw. Rydyn ni yno er mwyn pobl, dim er mwyn gwneud elw, ac mae hyn wrth galon ein sefydliad ac ar bob lefel ohono.

Mae’r holl gyllid rydyn ni’n ei dderbyn, a’r holl sgiliau ac arbenigedd rydyn ni’n eu datblygu – yn mynd yn ôl i’n gwneud ni’n well yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni bob amser eisiau gwella er eich mwyn chi. Er mwyn plant Torfaen. Rydyn ni eisiau rhoi mwy, lle mae ei angen fwyaf.

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Dim eich asiantaeth faethu safonol yw Maethu Cymru. Rydyn ni’n dîm cenedlaethol o 22 o dimau maethu Awdurdodau Lleol ar draws Cymru.

Mae aros yn lleol wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n edrych ar y darlun cyfan i sicrhau ein bod ni’n gwneud ein gorau dros y plant yn ein gofal. Rydyn ni’n gweithio i gynnal cyfeillgarwch. I helpu i gadw plant mewn cysylltiad ag ysgolion, clybiau a chymunedau sy’n bwysig iddyn nhw.

Ein blaenoriaeth bob amser yw cadw’r plant sydd yn ein gofal yn rhywle maen nhw’n gyfarwydd ag ef a chynnal eu cysylltiadau pwysig. Eu cadw nhw’n agos at y llefydd lleol maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru cyn belled ag y bo hynny’n iawn iddyn nhw. Rydyn ni’n edrych ar gynnal eu hymdeimlad o berthyn a hunaniaeth. Mae’n ymwneud â deall a gofalu am bob plentyn a gwybod beth sydd orau iddyn nhw.

Fel rhiant maeth gyda Maethu Cymru, chi yw’r person sy’n gwneud hyn i gyd yn bosibl.

mwy o wybodaeth am maethu cymru torfaen:

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch