blog

6 o’r Gweithgareddau Ar Ôl Ysgol Gorau i Blant yn yr Hydref.

6 o’r Gweithgareddau Ar Ôl Ysgol Gorau i Blant yn yr Hydref.

Mae’r hydref yn amser mae nifer yn cysylltu â gweithgareddau yn y cartref – Teledu, gemau, a the poeth. Mae rhai pobl yn dal i fyny gyda’u gweithgareddau; mae eraill yn yfed mwy o goffi, yn bwyta mwy o fwyd cysur nag arfer, neu’n cuddio o dan flanced gyda hoff lyfr neu’r gwylio’r gyfres ddiweddaraf ar Netflix.

Ond Medi yw’r amser hynny o’r flwyddyn pan fo’r tywydd yn dal i ganiatáu i ni fod yn weithgar ac yn greadigol yn yr awyr agored, er bod atgofion diwrnodau cynnes o haf yn araf gilio. 

Rydym wedi paratoi rhestr o weithgareddau i blant yn ystod Medi, a fydd, gobeithiwn, yn helpu gyda’r newid o haf crasboeth at dymor cysurus a mwy hamddenol yr hydref. 

1. Ewch ar daith gerdded natur i chwili am drysor.

Mae ‘blanced gynnes a phaned o de’ yn ddigon i ddenu pan fo’r diwrnodau’n mynd yn fyrrach. Ond ym Medi, rydym yn dal i gofio diwrnodau cynnes yr haf ac, yn naturiol, mae’r egni gyda ni o hyd i fynd i’r awyr agored. Ceisiwch ddefnyddio’r amser yma i fod yn weithgar cyn i’r gaeaf gyrraedd.  Nawr, mae’r dail yn newid lliw, ac mae’r awyr agored yn anhygoel. Gwnewch restr o bethau i’ch plentyn gael hyd iddyn nhw wrth gerdded, gallan nhw fod, er enghraifft, yn ddail amrywiol, concyrs, conau, mes a mwyar cerddin. Mae’r gweithgaredd yma o chwilio am drysor yn wych i blant bach, ond yn aml mae plant hŷn yn hoffi ymuno hefyd! Mae’n cynnig antur i bawb.  Casglwch bob dim ynghyd i’w defnyddio gartref yn nes ymlaen.

2. Crëwch emwaith mwclis cerddin a dynion castan.

Nawr gallwch dreulio gweddill y prynhawn yn gwneud pethau â llaw. Mae gwneud mwclis yn gallu bod yn hwyl arbennig i ferched. Mae’n rhaid i chi gasglu llawer iawn o fwyar cerddin i wneud mwclis hardd neu freichled. Anogwch greadigrwydd plant trwy ganiatáu iddyn nhw gymysgu a rhoi tro ar ddyluniadau newydd. Mae creu dynion castan a mes yn hwyl i blant (yn enwedig y rheiny sy’n hoff o waith llaw), yn ogystal ag i chi!

3. Gwnewch albwm dail.

An autumn leaf. Donnie Rosie on Unsplash

Gall creu albwm dail fod yn atyniad i bawb. Mae’n cael plant o bob oed i weithio gyda’i gilydd, cefnogi ei gilydd a dysgu. Ewch i’r awyr agored a chwiliwch yn eich coedwigoedd neu barciau lleol. Mae casglu dail lliwgar, rhoi enwau priodol iddyn nhw a’u glynu nhw i dudalennau albwm yn caniatáu i blant greu llyfr anhygoel o liwgar yn llawn trysorau’r hydref. Mae’n dysgu iddyn nhw hefyd am natur ac yn annog eu chwilfrydedd.

4. Ewch i hel afalau.

A person holding an apple. Bonnie Kittle on Unsplash

Neu, ewch ar daith i’ch marchnad ffermwyr leol i ddewis afalau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael nifer o fathau gwahanol a blaswch nhw i gyd! Gallwch baratoi rhai danteithion gyda’r afalau y bu i chi eu cael, e.e. afalau wedi eu pobi gyda jam neu sinamon neu bastai afalau.    Mae pobi cartref yn dysgu plant sut i baratoi eu bwyd, yn annog creadigrwydd ac yn rhoi synnwyr o lwyddiant pan fyddwch yn gallu mwynhau’r holl deisennau ffres yr ydych wedi eu pobl gyda’ch gilydd.

5. Ar feic gyda’r teulu. 

Mae mis Medi’n amser gwych ar gyfer seiclo gyda’r teulu. Mae’n amser da i ddysgu plant sut i reidio beic neu wneud hynny gyda’ch gilydd! Hyd yn oed mewn tywydd oer, mae seiclo’n eich cynhesu ac yn rhoi’r egni angenrheidiol yn y cyfnod yma o forbidrwydd. Mae’r llwybrau a’r parciau’n llai prysur nag y maen nhw yn y gwanwyn neu’r haf, ac mae plant sydd wrth eu bodd wrth fod yn egnïol yn fodlon ymwneud â gweithgareddau amrywiol.

6. Ewch i gerdded y mynyddoedd.

An adult and a child wearing boots

Nid rhywbeth i ddiwrnodau’r haf yn unig yw cerdded y mynyddoedd. Ar ddiwrnodau heulog yn yr hydref, mae cerdded y mynyddoedd llawn mor bleserus, os nad yn fwy. Mae’r llwybrau sydd fel arfer yn brysur yn fwy tawel. Ond, beth os yw’n oerach neu efallai’n glawio ychydig? Peidiwch â gadael i hynny eich digalonni. Mae’n gwneud y cyfan yn fwy o antur! Mae plant wrth eu bodd yn edrych o gwmpas a bod yn weithgar. Weithiau ar y llwybr, mae’n rhaid i chi gynhesu gyda the poeth (gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio fflasg a rhywbeth i’w fwyta), weithiau bydd angen het a menig, weithiau, oherwydd y niwl, does dim golygfeydd hyfryd, ond … mae yna atgofion hyfryd a theimlad o foddhad a blinder pleserus. 

Dyw siocled poeth gartref byth yn blasu’n well nag y mae ar ôl cerdded ar ddiwrnod oer. Does dim rhaid i gerdded y mynyddoedd fod yn rhywbeth ar gyfer y diwrnod cyfan; gallwch wneud hynny ar ôl yr ysgol yn eich ardal leol. Does dim rhaid i chi heicio na dringo mynyddoedd uchel i deimlo eich bod chi wedi cyflawni rhywbeth.  Dewiswch y bryniau bach  lleol sy’n haws os ydych chi’n cerdded a phlant bach. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis dillad addas ar gyfer y tywydd. Os yw’r dillad yn iawn, ni fydd her i unrhyw daith i’r bryniau!

Mae’n dda cofio nad yw’r hyn sydd o ddiddordeb i oedolion bob amser yn gyffrous i blant. Maen nhw’n chwilfrydig, yn awyddus i chwilota ac yn greadigol. Gall gweithgareddau’r awyr agored fod o fudd i blant mewn llawer o ffyrdd, ond maen nhw hefyd yn atgyfnerthu’r berthynas rhwng aelodau’r teulu.

Rydym yn gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i’ch annog chi i roi tro ar ffyrdd mwy gweithgar o dreulio amser ar ôl ysgol, hyd yn oed ar ddiwrnodau mwy oer. Nid yn unig mae gweithgareddau fel hyn yn bosibl, ond maen nhw’n gallu rhoi egni i bawb ar ddiwrnodau diflas undonog a byrrach. Mae’n werth rhoi tro!

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch