blog

Deg awgrym ar sut i gerfio pwmpenni.

Gwnewch i’ch pwmpen edrych yn wych gyda’n hawgrymiadau ni ar sut i’w cherfio. Gyda wynebau dychrynllyd a goleuadau lliwgar, bydd y gowrdiau gwych yma yn plesio pawb sy’n galw heibio.

Oherwydd, sut bynnag y byddwch yn dewis dathlu 31ain Hydref, mae un traddodiad sydd wastad yn curo gwyliau eraill. Mae pwmpenni yn draddodiadol ar Nos Galan, ond sut gallwch chi wneud eich un chi yn wahanol?

Dyma ein deg awgrym gorau ni er mwyn cael pwmpen eithriadol.

1.Byddwch yn ddoeth wrth ddewis eich pwmpen.

Dewiswch un sydd heb ei niweidio, sydd â choes gref, dim cleisiau a gwaelod fflat fel nad yw’n rholio wrth i chi gerfio. Cofiwch ddefnyddio eich dychymyg, er enghraifft a allai’r llinellau ar y croen ffurfio crychau ar wyneb gwrach?

2. Sychwch eich pwmpen i’w rhwystro rhag pydru.

Cyn cerfio, sychwch du allan eich pwmpen gyda channydd wedi ei deneuo â dŵr. Bydd hyn yn cael gwared â microbau sy’n achosi pydredd a bydd yn rhwystro eich pwmpen rhag pydru.

3. Torrwch o’r gwaelod, nid y top.

Mae llawer o fanteision o dorri’r caead o waelod y bwmpen. Yn gyntaf, gallwch gadw siâp hyfryd y bwmpen a rhwystro ochrau’r bwmpen rhag syrthio i mewn yn ddiweddarach. Hefyd, mae llawer o du mewn y bwmpen yn setlo ar y gwaelod dros amser, felly pan fyddwch yn tynnu’r agoriad i ffwrdd, bydd llawer o’r mwydion a’r hadau yn dod allan, gan ei gwneud yn llawer haws i’w glanhau.

4. Glanhewch y tu mewn.

Defnyddiwch lwy fetel fawr neu sgŵp hufen iâ i grafu’r tu mewn. Teneuwch wal fewnol y ‘wyneb’ nes ei bod yn 1 modfedd o drwch, fel ei bod yn haws torri drwy’r gragen.

5. Defnyddiwch dempled i wneud yn siŵr bod eich dyluniad yn iawn.

Wrth ddylunio unrhyw beth, mae’n syniad da bob amser gynllunio pethau ymlaen llaw cyn neidio i mewn. Argraffwch neu ddarluniwch y patrwm ar ddarn o bapur a’i lynu ar du blaen y bwmpen, ac yna amlinellwch y ddelwedd drwy wneud tyllau ar hyd y llinellau. Unwaith y byddwch wedi gorffen, tynnwch y templed i ffwrdd a dechrau cerfio.

6. Defnyddiwch y darnau sbâr yn ddoeth.

Gwnewch dafod, cetyn, neu wallt allan o ddarnau cragen y bwmpen sydd ar ôl.

7. Neu peintiwch eich pwmpen.

Gall hyn weithio’n dda, yn enwedig os ydych eisiau cadw’r gyllell allan o ddwylo bach. Byddant yn edrych yn wych yng ngolau dydd. Naill ai peintiwch ddyluniad dros y bwmpen gyfan, neu defnyddiwch baent i ychwanegu at bwmpen sydd wedi ei cherfio’n barod.

8. Defnyddiwch eitemau bob dydd i roi bywyd i’ch pwmpen.

Gallwch greu wyneb o nytiau a bolltau, defnyddio tâp gwyn adlewyrchol fel rhwymynnau neu gallwch, yn syml, dorri’r top i ffwrdd ac ychwanegu blodau lliwgar er mwyn creu pot blodau bwganllyd.

9. Gwnewch i’ch pwmpen ddisgleirio o’r tu mewn allan.

Defnyddiwch oleuadau Nadolig amryliw i ychwanegu dimensiwn newydd i bwmpen syml, neu defnyddiwch olau beic coch, sy’n fflachio, i wneud i’r bwmpen edrych yn fwy dieflig.

10. Ddim eisiau wyneb gwirion neu wên frawychus?

Rhowch gynnig ar siapiau fel sêr neu greaduriaid bwganllyd gyda theclyn torri bisgedi, neu ebillion dril i ychwanegu dotiau.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch