blog

Dysgu a datblygu ar gyfer gofalwyr maeth

Mae gofalwyr maeth yn hanfodol i gadw plant maeth yn ddiogel a’u helpu i gyrraedd eu potensial.  Felly, mae sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at ddysgu a datblygiad perthnasol yn hanfodol.

Ym Maethu Cymru Torfaen, ein bwriad yw cefnogi a grymuso ein gofalwyr maeth i gadw plant maeth yn ddiogel a helpu i adeiladu’r dyfodol mwyaf llewyrchus posibl i blant lleol.  Rydym yn cymryd yr amser ac yn cynnig yr arbenigedd i helpu i adeiladu ar y sylfeini hynny, a rhoi’r holl declynnau y bydd eu hagen arnoch chi.

Pa hyfforddiant byddaf i’n derbyn?

Mae dysgu a thwf yn rhan hanfodol o’r hyn sydd gennym i’w gynnig a byddwn yn parhau i’ch helpu chi a’ch plentyn maeth i ddatblygu.

Bydd ein tîm ym Maethu Cymru Torfaen yn rhoi cofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu i chi, i’ch helpu i olrhain eich taith, cofnodi sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy  a nodi anghenion dysgu ar gyfer y dyfodol. Bydd hefyd yn rhoi mewnwelediad ardderchog i chi ar gyfer eich datblygiad personol eich hun.

Yr hyn fyddwch chi’n dysgu

Byddwch yn dysgu sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd, y rheolau sy’n helpu i lywio’r hyn yr ydym yn gwneud, a sut i fod y gorau gallwch chi, gyda chyrsiau hyfforddi a chymwysterau, dydych chi byth yn teimlo eich bod chi’n sefyll yn llonydd.

Pryd fyddwch chi’n dysgu

Rydym ni’n hyblyg, ac mae hynny’n cynnwys ein fframwaith dysgu a datblygu. Bydd gennych fynediad i amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ar adegau sy’n gweddu i chi.  Dyw hyn ddim yn golygu ticio blwch yn unig; mae’n ymwneud â thyfu pob dydd. Mae rhai sgiliau yn gyffredinol; mae rhai yn fwy addas i blentyn penodol. Byddwn yn rhoi pa bynnag hyfforddiant a chefnogaeth y mae eu hangen arnoch chi, pa bryd bynnag y mae eu hangen.

Clywch gan ofalwyr maeth ledled Gwent

‘Ryw’n teimlo’n rhan o dîm cyfan sy’n gweithio gyda’i gilydd.  Mae gen i gysylltiadau da gyda’r teulu genedigol, gweithwyr cymdeithasol a’r ysgol ac rydym i gyd yn canolbwyntio ar y person ifanc.  Mae cyfathrebu da a pharch wrth wraidd hyn.’

‘Mae gen i gysylltiadau ardderchog gydag ysgol fy mhlentyn maeth ac rydym ni bob amser ar yr un dudalen ac mae’r gweithiwr cymdeithasol maethu yn ardderchog.’

‘Dydw i byth yn gyndyn o ffonio’r ysgol a dweud am anawsterau, does byth unrhyw feirniadaeth, dim ond cefnogaeth.’

‘Mae yna well fynediad at wasanaethau nag yr oedd yna o’r blaen’

‘Roedden ni’n cael sgyrsiau wythnosol gyda’r gweithiwr cymdeithasol trwy gydol y cyfnod clo, ac roedd hyn yn gefnogaeth fawr.’

‘Mae ein gweithiwr cymdeithasol yn ardderchog, yn gymorth mawr.’

“Roedd y dosbarthiadau’n dda iawn, mwynheais yn fawr.  Roedd yna gymysgedd o siaradwyr gwahanol a chynnwys amrywiol i gadw’ch diddordeb”

“Mwynheais y dosbarth lles, roedd yn wirioneddol ddiddorol”

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch