blog

Gweithgareddau’r Pasg i’w Mwynhau gyda’r Teulu

Gweithgareddau’r Pasg i’w Mwynhau gyda’r Teulu

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau’r Pasg i’w mwynhau gyda’r teulu dros wyliau’r ysgol? Wel, dyma chi – yma fe gewch brosiectau a gweithgareddau gwych sydd wedi eu dylunio i greu atgofion a chael hwyl gyda phlant o bob oedran y gwanwyn yma.

Mae Maethu Cymru Torfaen yn cyflwyno ei hoff weithgareddau Pasg i blant a theuluoedd yn Ne Cymru y mis Ebrill yma!

Mynd ar Helfa Ŵy Pasg

Y gwanwyn hwn, pam nad ymunwch gyda helfa ŵy Pasg yn un o leoliadau hynod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Bydd safleoedd fel Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd neu Erddi Dyffryn ym Mro Morgannwg yn ysbrydoli plant ac oedolion – ynghyd â chynnig digon o leoedd cuddio ar gyfer wyau Pasg lliwgar.

Gwnewch eich ffordd ar hyd y llwybr a darganfod gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan natur ar gyfer y teulu cyfan. Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal rhwng 11-18 Ebrill, rhwng 10.30am a 4pm. Y pris yw £3 fesul plentyn ac mae’n cynnwys map o’r llwybr, pensel ac ŵy siocled ar y diwedd. Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol.

Pobi danteithion thema’r Pasg gyda’ch gilydd

Ar ôl 40 diwrnod o’r Grawys, mae’r Pasg yn aml yn cael ei gysylltu gyda mwynhau danteithion melys. Felly, pam nad ewch ati i goginio cacennau neu ddanteithion eraill yn y gegin?

I blant ifanc, mae nythod Shredded Wheat yn ddewis ardderchog. Maent yn ddigon syml i unrhyw un gymryd rhan ac nid oes angen eu pobi. Gyda dim ond tri cynhwysyn, mae’r eitemau yn hawdd i’w hychwanegu i’ch rhestr siopa. I blant hŷn, gallech roi cynnig ar gacen foron neu bwdin siocled gyda wyau Pasg ar ei ben.

Funtastic

Beth bynnag yw’r tywydd, mae hwyl i bawb yn Funtastic.

Y lle perffaith i dreulio amser fel teulu, mae gan Funtastic le i blant bach, chwarae meddal i blant 4 i 11 oed, a lle pêl droed i blant sy’n hoffi cicio pêl o gwmpas.

Ond nid dyna’r cyfan, gan fod yna le disgo hefyd os ydych awydd dawnsio!

Felly, os nad ydych wedi ymweld eto, pam na ddewch heibio gyda’r plantos ac ymuno yn yr hwyl y gwyliau Pasg yma?

Lle i fynd: 1 Forward House, Western Industrial Estate, Caerffili, CF83 1BQ

Rhagor o wybodaeth: ewch i www.funtasticplaycentre.co.uk

Cynllunio noson ffilmiau’r Pasg

Gall noson braf yn gwylio ffilmiau fod yn ffordd berffaith o fwynhau amser fel teulu. Tra gallwch roi unrhyw ffilm i deulu ymlaen, mae na flas y Pasg i rai opsiynau.

Stori tyfu i fyny, mae Hop yn dilyn mab cwningen y Pasg a fyddai’n well ganddo ddrymio mewn band na dilyn proffesiwn ei dad.

Opsiynau gwych eraill yw Peter RabbitWinnie the Pooh: Springtime with Roo, a Rise of the Guardians. Neu, i gael ffilm Pasg ychydig llai traddodiadol, mae, Wallace and Gromit: The Curse of the Were-Rabbit yn antur llawn digwyddiadau wrth i’r cymeriadau chwilio am greadur chwedlonol.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch