“Troi eu bywydau o gwmpas a’u gweld nhw’n cerdded allan trwy’r drws at fywyd annibynnol – mae hynny’n deimlad arbennig iawn.”
Mae maethu pobl ifanc yn eu harddegau yn fath o ofal maeth sy’n hynod o werth chweil ac yn aml nid yw’n cael yr ystyriaeth y mae’n ei haeddu. Yng Nghymru, mae yna angen dybryd am deuluoedd i faethu pobl ifanc yn eu harddegau, gyda bron i hanner yr holl blant sy’n derbyn gofal sydd mewn gofal rhwng 11 a 18 oed.
Cawsom gyfle i siarad ag Ellen a Paul, gofalwyr maeth o Dorfaen sy’n maethu gyda’r Awdurdod Lleol. Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw ddau fachgen yn eu harddegau yn eu gofal, ond maen nhw wedi maethu nifer o bobl ifanc yn eu harddegau dros y blynyddoedd.
“Dechreuon ni faethu 10 mlynedd yn ôl. Roedden ni’n chwilio am her newydd, ac wedi gweld yr hysbysebion ynglŷn â maethu ac wedi penderfynu rhoi tro arni. Roedd y ddau ohonom eisiau parhau i weithio, ac felly roedd pobl ifanc yn eu harddegau yn ein siwtio ni, er i ni amau efallai po hynaf fyddai’r plentyn y mwyaf o faterion fyddai ganddo i ddelio â nhw. Roedd gennym ni’r fantais o fod wedi magu pump o blant ein hunain, ac felly roedden ni’n gwybod tipyn am bobl ifanc yn eu harddegau.”
Mae maethu pobl ifanc yn eu harddegau yn gallu bod yn brofiad heriol ond gwerth chweil, a hynny i’r gofalwyr maeth a’r unigolion ifanc. Mae’n adeg hanfodol ym mywyd unigolyn pan fydd yn y broses o ddatblygu ei hunaniaeth a thyfu’n oedolyn. Felly mae’n hanfodol deall anghenion unigryw pobl ifanc yn eu harddegau sy’n cael gofal maeth.
Fe fu Ellen a Paul yn siarad am ba mor unigryw yw maethu pobl ifanc yn eu harddegau a sut yr oedd y profiad hwn wedi cyfoethogi eu bywydau.
“Pan ddaw unigolyn ifanc yn ei arddegau i aros gyda ni, fel arfer mae’n teimlo’n siomedig – wrth gwrs. Mae’n teimlo’n fregus ac yn aml yn ofnus. Fel arfer mae mewn lle gwael, ond y cyfan sydd ei angen yw lle diogel i fyw a rhywfaint o sefydlogrwydd unwaith eto.”
“Mae angen ystafell wely dawel i gysgodi ynddi wedi cyrraedd, digon o bitsa (mae’r diet iach yn dod nes ‘mlaen!), rhywun i wyntyllu teimladau crac arnyn nhw i ddechrau ac yna rhywun i wrando (‘does dim angen siarad rhyw lawer arnoch, dim ond gwrando).”
Efallai bod pobl ifanc sy’n cael gofal wedi profi trawma ac ansefydlogrwydd yn eu bywydau. Yn aml maen nhw’n cael eu camddeall ac yn cael eu gweld fel rhai sy’n achosi trafferth, ac mae hynny’n feirniadaeth annheg iawn ac anghywir. Mae llawer o’r bobl ifanc hyn wedi bod trwy’r un sefyllfaoedd heriol â phlant ifancach sy’n cael gofal, er enghraifft esgeuluso neu gamdriniaeth, ac efallai bod hyn wedi arwain at faterion ymddygiad. Mae’n hollbwysig cynnig cartref cariadus a chysondeb iddyn nhw.
“Mae angen i chi eu trin â pharch ac fel oedolion ifainc, a dechrau trwy roi lle ac amser iddyn nhw i ymgartrefu. Os ydych chi’n dda am wrando, gallwch ennill eu hymddiriedaeth mewn fawr o dro. Dyna’r cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud, ennill eu hymddiriedaeth – mae’n syml! Mae gofyn treulio llawer o amser ar gam cynnar yn dangos diddordeb ynddyn nhw, a chyn hir byddan nhw’n ymgartrefu.”
“Os ydych chi’n gallu uniaethu â nhw a gwrando ar eu hanghenion, ‘dyw hi byth yn rhy hwyr. Rydyn ni wedi cymryd unigolyn ifanc dwy ar bymtheg oed a oedd yn grac ac yn teimlo bod pawb a phopeth wedi ei adael i lawr – efallai eich bod chi’n cweryla i ddechrau ond yna maen nhw’n sylweddoli bod eich calon chi yn y lle iawn a’ch bod chi ar yr un ochr â nhw. Rydych chi’n ennill eu hymddiriedaeth, ac yna mae’r daith yn dechrau go iawn.”
Mae’n bwysig cadw meddwl agored wrth faethu a chofio am yr heriau sy’n codi wrth faethu. Serch hynny, er gwaethaf yr hyn y mae pobl yn ei gredu, nid yw maethu pobl ifanc yn eu harddegau yn fwy heriol na maethu unrhyw grŵp oedran arall. Mae’n wahanol, dyna i gyd. Mewn sawl ffordd, mae’n haws na maethu plant ifancach. Rydych chi’n darparu ar gyfer eu hanghenion sylfaenol, fel darparu bwyd, dillad, a chysgod a sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at ofal iechyd ac addysg, ond mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gwybod beth maen nhw eisiau ac yn edrych ar ôl eu hunain, ac felly rydych chi’n fwy o fentor ac yn rhoi arweiniad iddyn nhw.
“’Doedden ni ddim yn disgwyl i bethau fod yn hawdd ac nid oedd pethau’n mynd fel oedden ni’n disgwyl iddyn nhw fynd bob tro, ond pan fyddwch chi’n troi bywyd person ifanc o gwmpas am y tro cyntaf, rydych chi’n dal y byg. Rydych chi’n cael eu helpu nhw i ddysgu bod yn annibynnol, dysgu gyrru, ceisio am swyddi, dod o hyd i fflat iddyn nhw’u hunain a symud allan unwaith fyddan nhw’n barod. Mae’n gallu bod yn heriol ond rydych chi’n cael y cyfle i helpu plentyn trwy roi diben iddyn nhw.”
Mae’r wobr wrth faethu pobl ifanc yn eu harddegau, a’u helpu i ddod yn annibynnol, yn amhrisiadwy. Rydych chi’n newid bywyd plentyn ac yn cael eu gweld yn ffynnu, ond rydych chi hefyd yn cael diben newydd yn eich bywyd, yn datblygu perthnasoedd ystyrlon ac yn dysgu llawer o sgiliau newydd.
“Ydych, rydych chi’n gallu helpu troi bywyd plentyn o gwmpas trwy roi lle diogel iddyn nhw i fyw ac, yn syml, gwrando arnyn nhw. Mae hynny’n deimlad gwych, pan fyddwch chi’n gwybod eich bod wedi eu helpu i drawsnewid eu bywydau, ond ‘dyw’r teimlad yna ddim yn stopio wrth iddyn nhw adael – rydyn ni’n ceisio cadw mewn cysylltiad ac yn taro i mewn iddyn nhw’n rheolaidd yn y dref. A phan fyddan nhw wedi gadael y nyth, ac yn dod nôl i gael cinio Nadolig – waw!”
“Wrth gwrs, nid yw pethau’n gweithio bob tro – weithiau dydy eu hanghenion nhw ddim yn cyfateb i’ch trefniant chi. O’r pedwar unigolyn ifanc yn eu harddegau sydd wedi dod atom ni ddiwethaf, mae dau gyda ni o hyd. Un yn yr ysgol, a’r llall yn gweithio’n llawn-amser, ac mae’r ddau arall wedi gadael – y ddau yn gweithio, un yn disgwyl yr ail blentyn – ac maen nhw’n cadw mewn cysylltiad. Dyna pam rydych chi’n gwneud hyn!”
Trwy ddewis maethu pobl ifanc yn eu harddegau, roedd Ellen a Paul yn gallu cadw eu swyddi hefyd, a chyfuno gwaith a maethu. Yma yn Maethu Cymru Torfaen rydyn ni’n ymdrechu i’ch cyfateb chi gyda phlentyn/unigolyn ifanc sy’n ffitio orau i’ch amgylchiadau chi. Mae’n bwysig i ni ddod i’ch adnabod chi, yr hyn sydd orau gennych, a threfniant unigryw eich teulu chi, a sicrhau bob tro mai eich teulu chi yw’r dewis gorau i’r plentyn neu’r unigolyn ifanc hefyd.
“Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn dueddol o fod yn delio â mwy o faterion, ond maen nhw hefyd yn fwy annibynnol, ac mae hynny’n golygu mwy o annibyniaeth a hyblygrwydd i ni’n dau gyda’n swyddi. Roedd maethu’r grŵp oedran hwn yn ein siwtio ni oherwydd roedd y ddau ohonom yn gallu parhau i weithio a chadw’n hannibyniaeth. Mae pob un yn wahanol, ond roedd gennym ni ein plant ein hunain yn barod, ac felly roedden ni eisiau rhywfaint o ryddid hefyd. Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn oedolion ifainc – mae’n haws siarad â nhw am y materion maen nhw’n ei hwynebu o gymharu â phlant. Yn anad dim, fel pob un, maen nhw eisiau teimlo’n ddiogel, teimlo croeso a theimlo eu bod yn rhan o’r teulu.”
Beth yw cyngor Ellen a Paul i bobl sy’n ystyried maethu ond yn poeni am faethu pobl ifanc yn eu harddegau? Meddyliwch amdanyn nhw fel plant sydd wedi cael eu siomi gan yr oedolion.
“Os ydych chi’n ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau, cofiwch fod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n blant ofnus sy’n teimlo bod yr oedolion sydd wedi bod yn eu bywydau hyd yn hyn wedi eu gadael i lawr. Maen nhw’n gyfarwydd â chael pobl yn eu siomi ac os ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel, byddan nhw’n ymgartrefu’n gyflym, yn gyffredinol. Yn anad dim, peidiwch â bod ofn methu, yn enwedig os ydych chi’n newydd. ‘Does dim disgwyl i chi ddelio â holl faterion cymhleth pob plentyn, ac weithiau efallai na fydd y sefyllfa’n llwyddo. Ond bydd yn llwyddo fel arfer, oherwydd er efallai na fyddan nhw’n fodlon cyfaddef hynny i ddechrau, maen nhw’n ofnus a’r cyfan maen nhw ei eisiau yw sicrwydd a sefydlogrwydd.”
Allech chi faethu rhywun yn ei arddegau?
Beth am gysylltu â thîm maethu eich awdurdod lleol heddiw? Fe allan nhw ateb eich holl gwestiynau am faethu a chynghori os allai maethu pobl ifanc yn eu harddegau fod yn addas i chi.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle cewch yr holl wybodaeth a chyfle i gysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.
Ydych chi’n byw yn Nhorfaen, Cymru? Anfonwch neges atom ac fe ddewn ni nôl atoch cyn gynted â phosibl.
Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn yn eich cymuned, sydd wir yn pryderu.