stori

Jesse: Y profiad o fod yn blentyn i ofalwyr maeth 

Mae rhieni Jesse, Amy a Gavin, wedi bod yn ofalwyr maeth i Maethu Cymru Torfaen er 2005.  Ganwyd Jesse i’r aelwyd faethu hon ac mae ei rieni wedi cael eu cymeradwyo i gynnig lleoliad i dri phlentyn.  Trwy gydol eu hamser fel gofalwyr maeth, mae Amy a Gavin wedi rhoi lleoliad maeth i 15 plentyn ac unigolyn ifanc, yn ogystal â lleoliadau brys i dri phlentyn.  Ochr yn ochr â hyn, maen nhw wedi rhoi gofal seibiant i 13 o blant a lleoliadau llety â chymorth i ddau unigolyn ifanc.  

Fe fuon ni’n siarad â Jesse am fod yn blentyn i ofalwyr maeth ac yn gofyn iddo pryd y sylweddolodd am y tro cyntaf fod ei rieni yn ofalwyr maeth.  Dywedodd ei fod yn bump oed pan siaradodd ei rieni ag ef am blentyn a fyddai’n symud i mewn gyda nhw. Roedden nhw wedi gofyn iddo a oedd hyn yn iawn gydag ef.  “Roedd yn gwneud i fi deimlo’n dda ein bod ni’n helpu pobl.  Pan oeddwn i’n 11 oed dywedodd fy rhieni wrtha i fod y ferch yr oeddwn i wedi meddwl erioed ei bod yn chwaer go iawn i fi, wedi cael ei maethu.  Mae teulu yn fwy am gariad na gwaed, a bydd hi’n chwaer i fi am byth.” 

Sut brofiad yw cael plentyn neu unigolyn ifanc yn ymuno â dy deulu?  “Weithiau, mae’n gwneud i ti deimlo braidd yn nerfus wrth gael pobl newydd yn dod i mewn i’r tŷ ac oherwydd fy mod i ychydig yn fewnblyg, mae’n gwneud i fi deimlo ychydig yn anesmwyth, ond mae’n gwella ar ôl ychydig ddyddiau.  Weithiau, mae’n gallu bod yn swnllyd, ond dyw bywyd byth yn ddiflas yma, ac mae yna rywun i siarad â nhw drwy’r amser.  Weithiau, maen nhw’n dod i’r gampfa gyda fi ac mae un unigolyn ifanc sy’n gogydd da, yn siarad llawer am faeth gyda fi.” 

Beth yw’r pethau positif am fod yn blentyn i ofalwyr maeth?  “Mae bod yn rhan o deulu sy’n maethu wedi fy helpu gyda fy hyder a siarad cyhoeddus.  Rwy’n gallu dod ymlaen â phawb ac yn derbyn pawb am bwy ydyn nhw ac nid am eu cefndir a’u profiadau bywyd.” 

Wyt ti wedi wynebu unrhyw anawsterau neu broblemau?  “Mae rhai adegau anodd wedi bod, pan mae rhai wedi dwyn oddi arnon ni, pan mae pobl ifanc wedi cymryd cyffuriau, a phan dw i wedi clywed am bethau ofnadwy mae pobl wedi bod drwyddyn nhw.  Mae hyn wedi gwneud i fi aeddfedu’n gyflymach ac mae wedi fy ngwneud yn fwy empathetig at eraill.  Rwy’n fwy ymwybodol o gyffuriau, cam-drin a cham-fanteisio na phobl eraill o fy oedran i, ac mae mam wastad wedi poeni amdana’ i yn gweld ac yn clywed gormod. Ond rwy’n teimlo bod hyn wedi helpu oherwydd mae wedi fy addysgu am y pethau hyn ac rydw i wedi gweld y pethau negyddol drosof fy hun.  Weithiau rwy’n poeni am fy chwaer ifancach oherwydd dw i eisiau iddi fod yn ddiogel drwy’r amser.” 

Mae Jesse yn 15 oed ac yn ddyn ifanc aeddfed iawn sy’n teimlo ei fod wedi elwa ar fyw ar aelwyd sy’n maethu, er bod rhai adegau anodd wedi bod.  Rhannodd ei fod yn arfer teimlo ychydig yn bryderus wrth gwrdd â phlant a phobl ifanc newydd ond, wrth iddo fynd yn hŷn, fod y profiad yn fwy cyffrous na phryderus.  Mae’n cyfaddef ei bod wedi bod yn anodd pan fo rhai o’r plant neu’r bobl ifanc wedi gadael ac mae wedi bod yn drist iawn gweld rhai ohonyn nhw’n gadael, ond mae yna gyfle i gadw mewn cysylltiad â nhw.  “Roedd ‘na rai pobl ifanc yr oedd yn anodd dod ymlaen gyda nhw, ond ro’n i’n gwybod bod angen fy rhieni i arnyn nhw’n fwy na fi ar y pryd, felly do’n i byth yn dweud dim byd amdanyn nhw.” 

Cyngor Jesse i blant gofalwyr maeth neu blant pobl sy’n ystyried maethu yw, “Cymerwch eich amser i ddod i ‘nabod pobl.  Rhowch eich amser iddyn nhw.  Meddyliwch am eich geiriau oherwydd dydych chi ddim yn gwybod beth mae rhywun wedi bod trwyddo a pheidiwch â siarad ag eraill am blant maeth oherwydd maen nhw’n haeddu eu cyfrinachedd”. 

Sut mae bod yn rhan o deulu sy’n maethu wedi effeithio arnat ti?  “Mae bod yn rhan o deulu sy’n maethu wedi newid y ffordd rydw i’n beirniadu eraill ac yn eu gweld.  Rwy’n meddwl am bobl ac yn dod i’w ‘nabod ar lefel ddyfnach ac rwy’n derbyn pobl.  Rwy’n gwybod bod ymddygiad yn weithred allanol ac yn adlewyrchiad o sut y gallai rhywun fod yn teimlo.   

Wyt ti’n teimlo dy fod yn cael dy gefnogi yn dy rôl?  “Dydw i byth yn teimlo heb gefnogaeth oherwydd mae fy rhieni yn fy nghynnwys ym mhob penderfyniad, er, rwy’n credu y dylai fod gwasanaethau ar gael i blant gofalwyr os oes eu hangen arnyn nhw.” 

Beth wyt ti’n ei weld yn dy ddyfodol?  Mae maethu wedi gwneud i mi fod eisiau ymuno â phroffesiwn gwerth chweil pan fyddaf yn hŷn.  Rydw i eisiau bod yn dditectif a byddaf o bosibl yn maethu ac yn mabwysiadu hefyd. 

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am faethu, does dim gwahaniaeth a oes gennych blant ai peidio, beth am gysylltu â Maethu Cymru Torfaen heddiw?  Gallwn ateb eich holl gwestiynau am faethu, rhoi rhagor o wybodaeth i chi a gweld pa fath o faethu allai fod yn addas i chi a’ch teulu. 

Maethu Yn Nhorfaen | Maethu Cymru Torfaen 

E-bost: fosterwalestorfaen@torfaen.gov.uk 

Ffôn: 01495 766669 

Mae dewis Maethu Cymru Torfaen yn benderfyniad i helpu plant i aros yn lleol a chynnal cysylltiadau pwysig.  Fel tîm lleol, rydyn ni’n rhoi plant wrth galon popeth a wnawn. 

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch