stori

Liz

Mae’r gofalwr maeth sengl Liz yn maethu plant o’i chartref ger pentref yn Nhorfaen.

y teulu maeth

Mae Liz yn byw ym Mhont-y-pŵl, gan fagu ei merch ei hun sydd bellach yn 9 oed. I Liz roedd maethu yn teimlo fel rhywbeth oedd bob amser ar ei meddwl. 

“Roeddwn i’n gwybod ers talwm fy mod i eisiau maethu. Dwi wastad wedi dwlu ar blant. Pan oeddwn i’n ferch fach, pe bai rhywun yn gofyn i mi beth oeddwn i eisiau bod, byddwn i’n dweud mam. Wrth gwrs, nid dyma’r hyn yr oedd yr athrawon am ei glywed ar y pryd.”

Gyda’r gallu i gynnig yr amser, y cariad a’r gofal sydd eu hangen ar blentyn, roedd Liz yn llawn cyffro i ddechrau’r bennod newydd hon yn ei bywyd.

“Dwi bellach yn ofalwr llawn amser a dwi wedi bod yn maethu ers 4 blynedd nawr”

Roedd yn ymddangos fel y dewis naturiol i Liz ymuno â’i thîm maethu lleol.

“Nid yw’n ymwneud â gwneud elw, mae’n ymwneud â gwneud gwahaniaeth, helpu plant lleol mewn angen, a rhoi tŷ llawn bywyd, cariad a chwerthin iddyn nhw.”

“maen nhw’n rhan o’n teulu”

Mae Liz a’i merch Jade wedi gwylio eu plant maeth yn tyfu ac yn datblygu fel unigolion ers hynny. Maen nhw bellach yn gofalu am ddwy chwaer, sydd wedi bod gyda nhw ers ychydig dros dair blynedd. 

“Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau derbyn brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd. Doeddwn i ddim eisiau iddyn nhw gael eu gwahanu. Mae Jade a minnau’n gwneud tîm gwych ac yn helpu’r merched i fod yn rhan o’n teulu yn ogystal â’u cadw mewn cysylltiad â’u teulu eu hunain.”

Mae Liz yn gwybod ei fod yn ymwneud â mwy na chynnig cartref yn unig; mae’n ymwneud â chynnal cysylltiadau pwysig hefyd. Nawr, mae’r merched yn teimlo’n gartrefol ac mae ganddyn nhw’r amgylchedd cywir i ffynnu ynddo.

“Byddwn i’n gwneud y cyfan eto”

Mae ymuno â’n tîm yn golygu eich bod yn gwella bywydau plant yng nghymuned Torfaen, gan helpu i wneud eu dyfodol yn fwy disglair.

“I unrhyw un sy’n meddwl am faethu, dwi’’n dweud ‘ewch amdani’. Mae maethu plant yn newid y ffordd rydych chi’n meddwl am y byd – mae’n agor eich llygaid i fywydau pobl eraill. Mae wedi fy newid i fel person.”

Mae’n foddhad enfawr i wybod eich bod yn newid cwrs bywydau plant lleol – ac mae hynny’n rhywbeth sy’n wirioneddol bwysig i Liz.

Dwi’’n gwneud rhywbeth da trwy helpu plant ar garreg ein drws, gan roi cartref diogel a chadarn i’r plant hyn. Dyma’r peth gorau i fi ei wneud erioed. Byddwn i’n gwneud y cyfan eto”

am ddechrau eich taith faethu eich hun?

Os yw clywed stori Liz wedi eich ysbrydoli i ddechrau eich taith faethu eich hun, byddem wrth ein boddau o glywed gennych. Cysylltwch â ni heddiw, a gadewch i ni ddechrau arni:

am ddysgu mwy?

Dysgwch fwy am faethu a beth y gallai ei olygu i chi.Mae ein straeon llwyddiant maethu yn seiliedig ar brofiadau go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch