stori

Sharon a Steve: Pam ein bod ni’n maethu plentyn ag anableddau.

Mae’r amserau da yn fwy na’r amserau anodd ac mae’r gefnogaeth bob amser yno ar gyfer yr amserau anodd.

Daeth Sharon a Steve yn  ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Torfaen 10 mlynedd yn ôl ac roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn gofalu am blant ag anableddau neu anawsterau dysgu o’r cychwyn cyntaf.  Roedd y ddau ohonyn nhw’n gweithio gydag oedolion ag anableddau ac anawsterau dysgu ac yn gallu gweld y gwahaniaeth gallai plentyndod da wneud i ansawdd y bywyd yr oedden nhw wedyn yn ei gael fel oedolion.


Ar ddechrau’r broses asesu, cyflwynwyd Sharon a Steve i fachgen 8 oed gydag anghenion corfforol cymhleth iawn ac anawsterau dysgu ac, o’r foment y gwelon nhw ei lun a darllen ei broffil, roedden nhw’n gwybod eu bod am fwrw ymlaen a chynnig lle maethu tymor hir iddo.


“Roeddem ni’n gwybod ein bod ni bob amser am faethu ac, ar ôl siarad â’n mab 7 oed am y peth, roedden ni’n gwybod bod yr amser yn iawn.  Roedd yn bwysig cynnwys ein mab yn y drafodaeth hon gan ei fod yn bwysig fod ganddo ef ran hefyd.”


“Trwy gydol y broses asesu, fe wnaethom ni gwrdd â’r bachgen 8 oed a chawsom gysylltiad rheolaidd gydag e yn y cartref i blant ble’r oedd yn byw ac yn ei ysgol.  Ar ôl ein cymeradwyo fel gofalwyr maeth i Faethu Cymru Torfaen, cefnogodd yr awdurdod lleol ni i gael yr addasiadau gofynnol i’r tŷ ac roeddem ni’n gallu cael rhai ymweliadau i’n cartref cyn i’r lleoliad ddechrau yn 2015.”


“Roeddem ni am faethu i’r awdurdod lleol oherwydd roeddem ni’n gwybod y byddem yn derbyn cefnogaeth ardderchog o’r tîm maethu a mynediad at dîm o bobl broffesiynol o gylch y plentyn y gallem ni ofyn iddyn nhw am gefnogaeth pan roedd ei hangen arnom ni.  Mae adeiladu perthynas dda gyda’r tîm o gylch y plentyn, gan gynnwys addysg ac iechyd, yn hanfodol wrth ofalu am blentyn ag anableddau.  Gallwn ni ddim canfod bai gyda’r gefnogaeth yr ydym wedi ei derbyn gan yr awdurdod lleol.”


“Ar noson gyntaf y lleoliad, roedd rhaid i ni fynd i’r ysbyty oherwydd anawsterau a achoswyd gan chwydu, a dyma ddechrau cyfnod o chwydu, golchi, newid dillad a newid y gwely yn ystod y nos, ond wedyn byddai’n cysgu trwy’r nos.  Byddai hefyd yn chwydu cyn i fws yr ysgol gyrraedd a byddai angen ei olchi a’i newid cyn mynd i’r ysgol.  Roedd y rhain yn amserau anodd, ond fe anghofion ni am y rhain pan ddechreuodd ei wên a’i gymeriad ddod i’r amlwg.  Aeth o fod yn fachgen nad oedd am gael unrhyw sylw i un sy’n ffynnu wrth ymwneud â phawb ac mae’n byw bywyd llawn ac yn cyrraedd ei botensial.”


Does dim angen i chi fod â phrofiad o ofalu am blentyn ag anableddau i fod yn ofalwr maeth iddyn nhw. Yn gyntaf, plant ydyn nhw ac er bod rhai heriau, mae’r hyn sy’n dda yn llawer mwy na’r heriau.  Mae rhaglen lawn o hyfforddiant ar gael i bob gofalwr maeth i’w helpu i gael y sgiliau y mae eu hangen i ofalu am y plentyn, ac mae cefnogaeth lawn yn dod gan dîm maethu’r awdurdod lleol a’r tîm o gylch y plentyn.  Mae yna ddigon o gyfleoedd hefyd i ofalwyr maeth gwrdd â gofalwyr maeth eraill a datblygu rhwydwaith o gefnogaeth.


“Mae’r amserau da yn fwy na’r amserau anodd ac mae’r gefnogaeth bob amser yno ar gyfer yr amserau anodd.  Rydym ni wedi bod yn ffodus i allu defnyddio aelodau o’r teulu am gyfnodau o seibiant, sy’n galluogi’r plentyn i aros yn ei gartref ei hun a chael gofal gan bobl sy’n ei adnabod yn dda ac yn gallu diwallu ei anghenion.  Fel gofalwyr maeth, mae’n bwysig sicrhau hunanofal ac mae cael amser i’n gilydd fel pâr wedi bod yn allweddol, ond heb gefnogaeth ein teulu, ni fyddem ni wedi gallu gwneud hyn.  Mae angen y gefnogaeth arnom ni i allu ei gefnogi ac mae cysondeb gofal yn allweddol yn hyn.  Weithiau, mae angen amser arnom ni i brosesu pethau a gallu cefnogi’n gilydd.”


Trwy ddewis maethu plentyn ag anableddau, mae Sharon a Steve yn teimlo eu bod wedi cyfoethogi bywydau eu teulu, yn enwedig eu mab sydd wedi elwa o gael y plentyn yma yn ei fywyd cymaint ag y mae’r plentyn wedi elwa o fod yn y teulu hwn.  Mae eu mab, sydd ond 6 mis yn hŷn na’r plentyn ag anableddau, wedi bod yn annog ei rieni i wneud y pethau mae teuluoedd eraill yn eu gwneud.  Maen nhw wedi bod ar wyliau ar long ac i Disneyland, yn ogystal â threulio nifer o benwythnosau yn eu carafán.


Mae gan Sharon a Steve ill dau swyddi ochr yn ochr â’u rolau maethu ac maen nhw wedi bod yn ffodus i allu gweithio o gwmpas eu rôl maethu.  Ym Maethu Cymru Torfaen, rydym yn ceisio paru gofalwyr maeth gyda phlentyn neu berson ifanc sy’n cyd-fynd yn y ffordd orau gyda’u hamgylchiadau, ac mae hyn yn golygu bod cadw gwaith amser llawn a maethu hefyd yn bosibl.


“Cynnal trefn yw’r peth pwysicaf ar gyfer cynnal ein swyddi ochr yn ochr â maethu.  Mae trefn yn gwneud bywyd yn haws i bawb ac yn sicrhau cysondeb gofal i’r plentyn.”


Llwyddodd Sharon a Steve i gynnig lle i ail blentyn yn 2019, ac mae’r plentyn wedi ffitio’n wych gyda’r teulu.  Roedd e’n ei weld yn od i ddechrau bod y plentyn ag anableddau yn cael ei fwydo trwy ei stumog, ond unwaith i Sharon a Steve esbonio hyn iddo, fe’i derbyniodd yn llwyr ac erbyn hyn does dim byd yn ormod iddo wneud drosto.  Mae’n ymwneud ac yn chwarae gydag e bob dydd ac mae’r ddau’n rhan lawn o’r teulu.


“Y peth mwyaf cadarnhaol am faethu yw gweld y plentyn yn datblygu, yn cyrraedd eu potensial llawn ac yn cael y bywyd gorau posibl.  Mae’n bwysig rhoi i blentyn yr ydych yn eu maethu yr un pethau â’ch plant eich hun ta waeth am unrhyw anableddau neu anawsterau dysgu, gan fod plant i gyd yn haeddu’r un cyfle.”


Cyngor Sharon a Steve i unrhyw un sy’n ystyried maethu plentyn ag anableddau yw gwneud yn siŵr fod y lleoliad wedi ei gynllunio’n ofalus gyda llawer o gyswllt ac ymweliadau o flaen llaw i helpu i feithrin perthnasau gyda’r plentyn ac fel y gall y plentyn ddod yn gyfarwydd â’r amgylchedd, yn ogystal â’r teulu maeth, cyn symud i mewn.  Mae trefn reolaidd yn hanfodol i lwyddiant lleoliad maeth, yn enwedig pan fo yna anghenion meddygol cymhleth sy’n gofyn am ofal arbenigol ac apwyntiadau meddygol rheolaidd. 


“Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth gan fod angen cefnogaeth ychwanegol weithiau a dydych chi ddim yn methu trwy ofyn am hyn.  Mae angen y gefnogaeth gan y tîm cyfan o gylch y plentyn er mwyn gallu ei gefnogi.”


“Mae mor werth chweil gweld y newidiadau yn y plentyn wrth i amser fynd heibio.  Gweld pa mor dda y mae wedi symud ymlaen yn yr ysgol a sut mae wedi datblygu.  Doedd e ddim am sylw’n wreiddiol ond nawr mae’n gallu rhoi gwybod i ni pryd mae e eisiau sylw, er nad yw’n siarad.  Gall fod yn anodd ond mae’r uchafbwyntiau’n fwy na’r anawsterau”


“I unrhyw un sy’n ystyried maethu, ewch amdani!”


A allech chi faethu plentyn ag anableddau?  Allech chi roi seibiant byr i blentyn ag anableddau?
Beth am gysylltu â Maethu Cymru Torfaen heddiw?  Gallwn ateb eich cwestiynau i gyd mewn perthynas â maethu, rhoi gwybodaeth bellach i chi ac asesu pa fath o faethu gallai fod yn dda i chi.
https://fosterwales.torfaen.gov.uk/cy/
E-bost: fosterwalestorfaen@torfaen.gov.uk
Ffôn: 01495 766669

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch