blog

Pontio yn ôl i’r ysgol – awgrymiadau da gan ein gofalwyr maeth

Gyda’r haf y tu ôl i ni a’r cyfle i ddychwelyd i’r ysgol ar y gorwel, gall yr adeg hon o’r flwyddyn fod yn gyfnod pryderus iawn i blant a phobl ifanc, felly rydym wedi llunio rhai awgrymiadau da gan Ofalwyr Maeth Torfaen i helpu pobl ifanc i drosglwyddo o wyliau’r haf yn ôl i’r ysgol, a hynny mewn ffordd sydd mor llyfn â phosibl.

Crëwch Drefn Cyfarwydd

Dechreuwch fynd ati i gael y plentyn yn ôl i mewn i drefn wythnos cyn y bydd y tymor newydd yn dechrau – ewch ar y daith i’r ysgol er mwyn i’r plentyn ail-ymgyfarwyddo â’r drefn”. Mae arferion nid yn unig yn rhoi ymdeimlad o sicrwydd i blant, ond hefyd yn helpu i ddatblygu hunanddisgyblaeth. Gall y cam anhysbys o ddychwelyd i’r ysgol a dechrau blwyddyn ysgol newydd fod yn frawychus, felly beth am helpu i frwydro yn erbyn hyn trwy ddatblygu trefn gyfarwydd?

Dangoswch Empathi

“Gan ddefnyddio Sharpie coch, mi oeddwn i’n arfer tynnu llun calon fach goch yng nghledr eu llaw a gwneud yr un peth ar fy un i, byddem wedyn yn cyffwrdd cledrau. Yna yn yr ysgol pe byddent yn teimlo’n anesmwyth, awgrymais eu bod yn rwbio’r galon fach hon a byddwn yn teimlo hyn yn fy un i. Roedd hyn yn tawelu eu meddwl fy mod yn meddwl amdanynt ”. Mae angen i blant deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hannog, waeth pa mor ddibwys y gall eu pryderon neu eu hofnau ymddangos. Mae gwybod bod eu rhiant maeth yno ar eu cyfer ac yn barod i wrando mor bwysig yn ystod y cyfnod pontio anodd hwn.

Byddwch yn Drefnus

 “Holwch eich gweithiwr cymdeithasol am unrhyw faterion trafnidiaeth neu gwnewch gais am docynnau bws/tocyn ac ati os oes angen, a hynny mewn digon o amser, i osgoi unrhyw broblemau”. Peidiwch â gadael pethau tan y funud olaf, estynnwch allan at eich gweithiwr cymdeithasol am help a chefnogaeth fel grantiau GDD ar gyfer gwisgoedd. Sicrhewch fod popeth yn barod cyn y diwrnod cyntaf yn yr ysgol ee deunydd ysgrifennu a gwisgoedd fel nad yw eich plentyn yn teimlo’n bryderus neu’n poeni.

Ailgydiwch yn y Drefn Gysgu

“Cael y maint cywir o gwsg trwy gysgu ar amser synhwyrol ”. Mae rhieni’n gwybod bod cwsg o ansawdd yn hanfodol i lwyddiant eu plentyn yn yr ysgol. Gyda chwsg o ansawdd, mae hwyliau plant a’u gallu i ganolbwyntio, yn gwella. Mae cwsg hefyd yn hanfodol ar gyfer creu a chadw atgofion – rhan bwysig o ddysgu.

two teenage boys in school uniform on bikes

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch