ffyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu yn nhorfaen?

Mae pob plentyn yn ein gofal angen rhiant maeth a fydd yn eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw.

Ar hyn o bryd, mae yna blant yn eich cymuned leol sydd eich angen chi. Mae arnyn nhw angen ysgwydd i bwyso arni. Rhywun i gredu yn eu breuddwydion. Rhywun i gredu ynddyn nhw.

Eich cyfeiriadedd rhywiol, eich ethnigrwydd, p’un ai ydych chi’n briod neu’n sengl, ac a ydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu – mae’r rhain yn helpu i’ch gwneud chi yn chi, ond dydyn nhw ddim yn ffactor yn eich cais i faethu. Rydyn ni’n dathlu popeth sy’n eich gwneud chi’n unigryw.

Mae bron i unrhyw un yn gallu maethu gan fod pawb yn cynnig rhywbeth newydd (a gwych) i fyd maethu.  Rydyn ni’n gynhwysol. Beth bynnag yw eich cefndir, rydyn ni’n croesawu pawb. Wedi’r cyfan, yr hyn sy’n cyfrif yw’r bersonoliaeth, y sgiliau a’r profiad sydd gennych chi. Rydyn ni’n credu fod cymysgedd mwy amrywiol yn fonws enfawr.

Ydych chi’n dal i fod yn ansicr a yw maethu yn addas i chi? Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Dydy rhai o’r straeon rydych chi wedi’u clywed am faethu ddim yn swnio’n wir. Nes i chi gael profiad o faethu, allwch chi ddim dychmygu’r manteision a ddaw yn ei sgil.

Pwy bynnag ydych chi, mae maethu’n cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth sylweddol i’ch bywyd – ac i fywydau plant yn Nhorfaen.

Mae maethu’n amrywiol. O aros dros nos i rywbeth hirach. Mae gofyn cael cymysgedd amrywiol o bobl ar gyfer maethu hefyd. Dyma’n union pam ein bod ni’n croesawu ac angen gofalwyr amrywiol sydd â chefndiroedd, profiadau a storïau gwahanol.

Meddyliwch amdanon ni fel eich canolfan arbenigol bwrpasol. Oherwydd dyna’n union ydyn ni. Gyda’n gilydd, gallwn ni gyflawni’r gorau i blant.

I fod yn rhiant maeth, rydyn ni’n gofyn dau brif gwestiwn – allwch chi wneud gwahaniaeth? Ac, ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth? Dim ond chi sy’n gallu ateb.

 

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Efallai eich bod yn meddwl a yw maethu’n addas i chi os oes gennych chi fywyd gwaith prysur. Gallai hyn olygu bod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch chi gan eich teulu a’ch ffrindiau pan fyddwch chi’n rhiant maeth, ond dydy hyn ddim yn eich atal rhag cychwyn ar eich taith.

Peidiwch â meddwl bod eich swydd yn rhwystr. Mae llawer o ofalwyr maeth yn gweithio, a gyda rhywfaint o ystyriaeth ychwanegol, gallwch chi wneud yr un fath.

Gallwch chi gynnwys maethu yn eich bywyd. Gyda’r gwahanol fathau o faethu, efallai y bydd un yn gweddu’n well na’r lleill. Mae rhai gofalwyr maeth yn maethu’n llawn amser, tra bo eraill yn gweithio’n llawn amser a dim ond yn maethu’n rhan amser trwy gynnig seibiant byr. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n dod o hyd i’r cyfle maethu cywir i chi.

Mae maethu yn ymrwymiad sydd angen tîm. Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun. Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â’r cyfuniad priodol o weithwyr cymdeithasol, athrawon, therapyddion ac arbenigwyr. Byddwn ni bob amser gyda chi i’ch cefnogi.

 

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Os ydych chi’n teimlo’n ddiogel yn lle rydych chi’n byw, does dim ots a ydych chi’n rhentu neu’n berchen ar eich eiddo. Os ydych chi’n teimlo’n ddiogel ac yn caru lle rydych chi’n byw, gallai’r un peth fod yn wir i blentyn maeth hefyd. Byddwn ni’n cydweithio i weld beth sydd orau i chi, yn dibynnu ar eich cartref.

Yn y pen draw, gall ystafell sbâr yn eich cartref ddod yn lle diogel i rywun sydd ei angen.

 

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Does dim dau deulu maeth yr un fath. A does dim dau blentyn maeth yr un fath chwaith. Mae bod â phlant eich hun yn gallu bod yn fuddiol iawn wrth faethu plentyn. Mae maethu’n gallu bod yn werth chweil i chi, i’r plentyn maeth ac i’ch plant eich hun. Mae cael brodyr a chwiorydd maeth yn gallu helpu plant i ddeall pethau’n well. Mae’n gallu meithrin cyfeillgarwch am oes a helpu i feithrin y gallu i ofalu am eraill.

 

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does dim terfyn oedran ar gyfer maethu plentyn. Fel gofalwr maeth hŷn, efallai yn eich 60au neu’ch 70au, mae eich profiad o fywyd yn amhrisiadwy. Dim ots beth yw eich oedran, byddwch yn cael cefnogaeth a hyfforddiant lleol arbenigol i’ch helpu chi i baratoi ar gyfer eich taith.

 

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Os ydych chi’n oedolyn, dydych chi ddim yn rhy ifanc i faethu. Er bod profiad bywyd yn fantais fawr, dydy bod yn ifanc ddim yn rhwystr i faethu. P’un ai ydych chi yn eich 20au neu’n hŷn, gallwch chi fwynhau’r llwybr cyffrous sydd o’ch blaen gyda’n rhwydwaith o gymorth pwrpasol.

 

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Na, does dim gofynion arbennig o ran perthnasoedd na hyd amser y berthynas. Felly hefyd priodasau a phartneriaethau sifil.

Mae angen cartref diogel ar blant. Mae angen sefydlogrwydd arnyn nhw. P’un ai ydych chi’n sengl neu mewn perthynas, os gallwch chi gynnig hyn, gallwch chi faethu.

Bydd Maethu Cymru Torfaen yn cydweithio â chi, a’ch partner, i weld ai dyma’r amser iawn i chi faethu.

 

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Dydy bod yn drawsryweddol ddim yn effeithio o gwbl ar eich gallu i faethu. Eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch natur ofalgar sydd bwysicaf.

 

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Gallwch – oherwydd dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn ffactor wrth ystyried a fyddwch chi’n gwneud rhiant maeth da. Y peth pwysicaf yw eich ymrwymiad i blentyn. Eich ymrwymiad i wrando a gofalu. Y sawl sy’n cynnig lle diogel a chariadus lle gall plentyn dyfu.

 

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Os oes gennych chi gi, cath neu unrhyw fath arall o anifail anwes, dydy hyn ddim yn golygu na allwch chi fod yn rhiant maeth. Yn hytrach, rydyn ni’n cynnwys eich anifeiliaid anwes yn eich asesiad. Mae angen i ni ddod i’w hadnabod nhw, fel aelodau o’ch teulu, a gwneud yn siŵr y byddan nhw ac unrhyw blant maeth yn cyd-dynnu’n ddiogel.

Wedi’r cyfan, gallwch chi gael llawer o gymorth gan anifeiliaid anwes a gallan nhw fod o fudd gwirioneddol i blant maeth.

 

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Mae polisïau maethu’n amrywio ar draws Cymru, ond yr hyn sy’n wir ym mhob man yw y dylech chi fod yn agored ac yn onest ynglŷn ag ysmygu yn ystod y broses ymgeisio. Fydd hyn ddim o reidrwydd yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth, ond weithiau bydd angen rhoi sylw ychwanegol iddo.

Gallwn gynnig arweiniad i’ch helpu i roi’r gorau i ysmygu, os byddwch yn gofyn amdano. Rydyn ni eisiau dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.

 

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Mae rhiant maeth da yn cynnig cariad, cefnogaeth ac arweiniad bob dydd. Rydyn ni’n gwybod bod cyflogaeth yn gallu amrywio. Felly, os ydych chi’n ddi-waith ar hyn o bryd, fydd hyn ddim yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth.

Byddwn ni’n gweithio gyda chi i wneud yn siŵr mai dyma’r amser iawn i chi.

 

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Mae pob cartref maeth yn unigryw. Does dim angen tŷ mawr arnoch chi i faethu plentyn. Yr unig beth sydd ei angen arnoch chi yw ystafell sbâr lle gallan nhw deimlo’n ddiogel ac yn gartrefol.

rhagor o wybodaeth am faethu

A woman and a boy sitting on a bench

mathau o faethu

Mae sawl math o faethu. Gall olygu diwrnod, wythnos, blwyddyn neu hirach. Mae rhywbeth sy’n addas i bawb.

mathau o faethu
A girl wearing glasses and smiling to the camera

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae’r atebion ar gael yma.

mae'r atebion ar gael
Adult with teenage boy in kitchen making food together

cefnogaeth a manteision

Mae maethu’n rhoi boddhad mewn cymaint o ffyrdd. Dyma beth rydyn ni’n ei gynnig.

dysgwych mwy
Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch