Rydym wedi chwilio’n helaeth am y digwyddiadau Nadolig gorau yn ne Cymru fel y gallwn ni roi’r canllaw gorau posibl i chi ar gyfer y Nadolig eleni, a’r newyddion da yw bod modd i chi brynu tocynnau ar eu cyfer nhw i gyd yn syth!
Felly, os hoffech chu fynd i sglefrio yn ystod y gwyliau, ymweld â Siôn Corn neu’r pantomeim, dyma’r rhestr i chi.
Rydym yn gobeithio y cewch chi amser da yn y cyfnod cyn yr ŵyl a digon o hwyl gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Nadolig Llawen!
Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd ar agor yn swyddogol ac mae’r ŵyl yn ôl eleni yn llawn dop, a bydd ar ddau safle yn y ddinas.
Bydd yr hwyl i gyd ar Lawntiau Neuadd y Ddinas a Chastell Caerdydd.
Bydd sglefrio a’r rhodfa iâ yn y castell, a bydd y reidiau, adloniant a bariau wrth Neuadd y Ddinas.
Mae tocynnau ar werth eisoes ar gyfer Gŵyl y Gaeaf eleni a byd yn mynd tan Ionawr 8.
I archebu: Gŵyl y Gaeaf Caerdydd • Digwyddiadau • Croeso Caerdydd
Groto Siôn Corn yn y Celtic Manor
Mae’r Celtic Manor yn gwahodd teuluoedd i ymuno â nhw ar gyfer profiad hudol dros yr ŵyl, ble gallan nhw ymgolli mewn gwlad hud a lledrith yn Ystafelloedd Caernarfon.
Bydd y corachod cyfeillgar wrth law i roi anrheg Nadolig bach a byddwch yn gallu mwynhau te’r prynhawn gyda Siôn Corn. Beth am weld ar ba restr – da neu ddrwg – ydych chi eleni?!
Ar ddyddiadau amrywiol trwy gydol Rhagfyr. I archebu: Santa’s Tea Party | Celtic Manor Resort (celtic-manor.com)
Pantomeimau
Does dim prinder pantomeimiau yn theatrau Cymru eleni ac mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym. Felly beth am fwynhau noson hudol yn y theatr, yn llawn adloniant traddodiadol y pantomeimiau. Dyma restr o’r hyn y gallwch weld a ble:
Snow White and the Seven Dwarfs – Y Theatr Newydd, Caerdydd
I archebu: Pantomime, New Theatre, Cardiff (newtheatrecardiff.co.uk)
Jack and the Beanstalk – Theatr y Savoy, Trefynwy
I archebu: www.monmouth-savoy.co.uk
Robin Hood – Theatr y Gyngres, Cwmbrân
I archebu: Congress Theatre
Y Nadolig yn Nhŷ Tredegar
Gall gwesteion fwynhau Nadolig Traddodiadol Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd eleni gyda theithiau Nadolig, a stondinau.
Bydd y gerddi hardd wedi eu haddurno ar gyfer yr ŵyl a gall gwesteion lapio’n gynnes a chrwydro trwy’r coed a’r borderi gaeafol.
Edrychwch am nodweddion Deuddeg Dydd y Nadolig ac ymunwch â’r gweithgareddau i’ch cael i ysbryd yr ŵyl.
I wybod mwy: Dathlwch y Nadolig yn Nhŷ Tredegar | Casnewydd | National Trust