blog

Sut I Helpu Ffoaduriaid Ifanc sy’n Cyrraedd Cymru?

Yn 2021 rhoddwyd y dasg i bob awdurdod lleol ddarparu lleoliadau allweddol i blant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches o dan y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol. Mae gweithio gyda’n gilydd yn hanfodol i wneud y cynllun yn llwyddiannus, ac mae Maethu Cymru’n cefnogi’r fenter hon

Efallai eich bod chi wedi gofyn i chi’ch hun, ‘Sut allaf i helpu ffoaduriaid ifanc yng Nghymru’?

Bwriad yr erthygl hon yn rhoi cyfarwyddyd a gwybodaeth i chi am:

  • Yr hanfodion: beth yw’r gwahaniaeth rhwng ymfudwr, ffoadur a cheisiwr lloches?
  • Beth i’w wybod am ffoaduriaid ifanc sy’n ceisio lloches?
  • Dod yn ofalwr maeth neu ddarparu llety â chymorth i helpu ffoaduriaid ifanc
  • Ble i ddechrau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu ffoaduriaid ifanc sy’n ceisio lloches yn eich ardal leol ac am ddysgu beth allwch chi wneud, darllenwch ymhellach.


Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ymfudwr, ffoadur, a cheisiwr lloches?

Pob diwrnod mae miloedd yn gwneud y penderfyniad hynod o anodd i adael ei gwledydd. Mae rhai yn chwilio am fywyd gwell, ond does dim dewis gan rai ond ffoi rhag rhyfel, erledigaeth neu helbul gwleidyddol. Tra bod y categorïau o’r rheiny sy’n ceisio nawdd mewn gwlad arall yn gallu bod yn ddryswch, mae yna rai gwahaniaethau allweddol:

Ymfudwr

Dyma berson sy’n symud o un wlad i un arall i gael hyd i waith neu amodau byw gwell. Efallai bydd rhai ymfudwyr economaidd yn aros yn y wlad sy’n gyrchfan iddyn nhw yn y pen draw a gallent wedyn gael eu hystyried yn fewnfudwr. Dyw ymfudwyr ddim yn ffoi rhyfel neu erledigaeth a, fel arfer, gallan nhw fynd yn ôl at eu gwlad gartref pryd bynnag y maen nhw’n dymuno.

Ffoadur

Person yw ffoadur sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu gwlad er mwyn dianc rhag rhyfel neu erledigaeth oherwydd eu hil, crefydd, cenedligrwydd neu drychineb naturiol. Gall y broses o gael statws ffoadur gymryd nifer o flynyddoedd, gan orfodi nifer o ymgeiswyr i aros dramor mewn gwersylloedd ffoaduriaid mewn amgylchiadau byw peryglus.

Ceisiwr lloches

Person sydd wedi gadael eu gwlad wreiddiol i ddianc rhag rhyfel, erledigaeth neu drychineb naturiol ac sydd wedi gwneud cais ffurfiol am loches mewn gwlad arall ond y mae eu cais heb ei benderfynu eto. Ar y cyfan, mae’r broses lloches yn gallu cymryd blynyddoedd i’w chwblhau, ond mae gan bawb hawl gyfreithiol i geisio lloches.  Mae’n rhaid i geiswyr lloches wneud cais am warchodaeth yn y wlad sy’n gyrchfan iddyn – sy’n golygu bod rhaid iddyn nhw gyrraedd neu groesi ffin er mwyn gwneud cais.


Beth sydd i’w wybod am ffoaduriaid ifanc sy’n ceisio lloches yng Nghymru?

Y trawma y maen nhw wedi ei brofi

Mae mwyafrif y ffoaduriaid ifanc sy’n cyrraedd y DU gan geisio lloches yn dod o wledydd ble mae yna ryfel, gwrthdaro neu orthrwm. Mae nifer yn dod ar eu pennau eu hunain o Afghanistan, Iran, Iraq, Syria, Fietnam, ac Eritrea.

Maen nhw’n aml wedi eu trawmateiddio ac, fel arfer, maen nhw rhwng 14 a 17 oed. Byddai’r siwrnai y maen nhw wedi bod trwyddi wedi bod yn anodd i’r rhan fwyaf o oedolion – aethon nhw drwy’r cyfan ar eu pennau eu hunain. 

Mae anghenion ac amgylchiadau’r bobl ifanc yma’n gymhleth. Nid yw’n hysbys faint o bobl ifanc sy’n methu yn ystod y daith honno na chwaith manylion eu profiadau.

“Maen nhw’n dod o nifer o wledydd gwahanol, gan ffoi rhag rhyfel yn aml. Ni allwn ddychmygu hyd yn oed yr hyn y maen nhw wedi bod trwyddo. Mae’n anodd iawn iddyn nhw ddweud wrthym am eu profiadau oherwydd bod pethau wedi bod mor drawmatig iddyn nhw. Maen nhw’n un o’r grwpiau mwyaf caredig, ystyrlon a gofalgar yr ydym wedi gweithio â nhw. Maen nhw bob amser yn gofalu am ei gilydd a phobl yn eu cymunedau.”

Chloe, Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd, Cyngor Dinas Casnewydd

Mae nifer o ffoaduriaid ifanc sy’n ceisio lloches wedi profi digwyddiadau trawmatig a cholledion. Gall y rhain gynnwys bod yn dyst dros gyfnod hir i drais, yn aml tuag at eu teuluoedd a lleoedd oedd yn ‘gartref’ iddyn nhw, ansicrwydd ac efallai colli aelodau o’r teulu. Gall rai ddatblygu problemau iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD), iselder, hunan-niwed a phroblemau ymddygiad. Trwy gynnig cefnogaeth a lle diogel iddyn nhw heddiw, gallwch roi cyfle iddyn nhw ailadeiladu eu bywydau a goresgyn y trawma y bu iddyn nhw ddioddef mor ifanc.

Does dim llawer o wybodaeth amdanyn nhw

Yn aml, rydym yn gwybod ychydig iawn am y bobl ifanc yma pan fyddan nhw’n cyrraedd y DU. Efallai bod y sefyllfa yn eu gwlad eu hunain wedi eu gorfodi i ffoi ar fyr rybudd, sy’n golygu nad oes ganddyn nhw fawr o eiddo na dogfennau i gadarnhau eu hunaniaeth. Rydym yn gwybod eu bod wedi bod trwy lawer mwy nag y gallwn ddychmygu.

Mae eu profiadau trawmatig hefyd yn eu gwneud nhw’n naturiol bwyllog ac, yn ddealladwy, yn llai agored gyda dieithriaid. Mae’r awyrgylch meithringar a chefnogol y mae ei angen arnyn nhw’n gallu eu helpu i ddysgu sut i ymddiried mewn pobl eto, derbyn cymorth, bod yn agored â phobl ac adeiladu perthnasau eto.

Gwahaniaethau diwylliannol a chrefyddol

Yn naturiol, mae yna wahaniaethau diwylliannol a chrefyddol sy’n gallu bod yn heriol pan fyddwch yn ceisio cynnig cymorth i’r bobl ifanc yma.

Dywedodd un o’n gofalwyr maeth, Lucy, sy’n maethu ffoaduriaid ifanc:

“Pan fo gyda chi blentyn neu berson ifanc o wlad arall, mae angen i chi agor eich llygaid i lawer mwy o brofiadau, gan ddysgu am y diwylliant, o ble maen nhw’n dod, sut olwg sydd ar eu teuluoedd, sut olwg sydd ar eu cartrefi sut maen nhw’n gweithio, beth maen nhw’n gwneud ar gyfer addysg. Rwy’n credu bod hyn mor wahanol, felly rydych yn cael, profiad gwahanol.  Mae hyn yn wrth chweil i mi, dysgu pob dim, a gweld plentyn yn dysgu ein diwylliant, a ni’n dysgu eu diwylliant nhw”.

Maen nhw siarad dim ond ychydig o Saesneg i ddechrau, neu ddim o gwbl.  Mae diwylliant ac arferion Prydeinig yn wahanol iawn i’r hyn y maen nhw’n gyfarwydd â nhw.  Gall y gwahaniaethau diwylliannol a chymdeithasol fod yn heriol i’w deall a llywio drwyddynt, yn enwedig i’r rheiny nad ydynt erioed wedi eu profi nhw. Mewn nifer o achosion, y cwbl sydd ganddyn nhw yw crefydd a ffydd; gall rhywbeth bach fel cynnig y Quran i berson Mwslimaidd a’u cyflwyno i fosg lleol eu helpu i deimlo’n fwy cyfforddus.

Oherwydd rhwystrau iaith, gall fod yn heriol cyfathrebu ar y dechrau a chael hyd i wybodaeth angenrheidiol am y peron ifanc, fel cefndir meddygol neu ddewisiadau bwyd.  Gall pobl sydd am gynorthwyo ffoaduriaid wneud hynny trwy ddysgu ychydig am eu bwydydd cartref, eu harferion a’u gwledydd. Gall camau bach fel hyn wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae’r bobl ifanc fregus yma’n teimlo.

Felly, beth allwch chi wneud i helpu ffoaduriaid ifanc yn eich cymuned leol?

Dewch yn ofalwr maeth neu rhowch lety â chymorth i helpu ffoaduriaid ifanc

Y cam mwyaf hanfodol i helpu ffoaduriaid ifanc yn cynnig lle iddyn nhw aros.  Mae’n eu hatal rhag mynd yn ddigartref neu ar goll, yn enwedig os ydyn nhw’n cael eu denu at ddinasoedd mawr ble gallan nhw fod mewn perygl o fasnachu pobl neu ecsbloetio rhywiol.

Os oes gyda chi ystafell sbâr yn eich cartref ac am helpu, gallwch gynnig Llety â Chymorth. Mae’r cynllun yma’n cynnig cyfle i bobl ifanc 16 i 21 oed a all fod yn gadael gofal neu sydd efallai ddim yn gallu byw gyda’u teuluoedd.  Trwy gynnig llety â chymorth i ffoaduriaid ifanc, gallwch eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau ymarferol i fyw’n annibynnol fel y byddan nhw’n gallu symud ymlaen at eu cartref eu hunain rhyw ddiwrnod.

Gallwch hefyd ddod yn ofalwr maeth i ffoadur ifanc. Mae hyn yn gweithio’n well, fel arfer, os oes gennych chi ryw brofiad gyda maethu, ond peidiwch â digalonni.  Y pethau sylfaenol ar gyfer maethu yw ystafell sbâr, calon agored a’ch bod dros 18 oed (neu dros 21 mewn rhai awdurdodau lleol). Hefyd, byddwn yn gallu eich cynorthwyo i weld ai dyma’r amser iawn i chi faethu.#

Pa gymorth sydd ei angen ar ffoaduriaid mewn gwirionedd? 

Mae’r rhan fwyaf o ffoaduriaid yn bobl ifanc yn eu harddegau, a, fel pobl ifanc, maen nhw’n elwa o gael cyfarwyddyd, cefnogaeth a chyngor. Mae ganddyn nhw bethau sydd yn well ganddyn nhw ac maen nhw’n gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain, sy’n golygu eich bod yn gallu gweithredu fel mentor neu eiriolwr ar eu rhan. Dyma pam fo profiad blaenorol o fagu eich plant eich hun neu o faethu yn ddefnyddiol ond nid yn angenrheidiol bob tro. Efallai bod gennych eisoes eich ffyrdd eich hun o ddelio â sefyllfaoedd annisgwyl neu ddatrys problemau mewn ffordd yr ydych chi’n gwybod sy’n effeithiol. 

Disgrifiodd un o’n gofalwyr, Lee, sut y bu iddo ef a’i wraig ymdrin â’u lleoliad cyntaf yn rhoi gofal i ffoadur ifanc oedd yn ceisio lloches:

“Doedd gyda ni ddim llawer o brofiad gyda phobl ifanc yn eu harddegau, roedd gyda ni brofiad â phlant ifanc. O’r diwrnod cyntaf, roedd yn arbennig o swil. Fel dywedais i, doedd ganddo ddim Saesneg o gwbl, felly doedden ni ddim yn gwybod unrhyw beth amdano. Ond rhoddodd yr holl brofiadau yna yr ydym wedi bod trwyddynt wrth faethu syniad i ni ble i ddechrau. Ein bwriad cyntaf oedd cael gwybodaeth am ei gefndir meddygol; oes ganddo unrhyw broblemau meddygol parhaus; ydy’n cymryd unrhyw feddyginiaeth. Fe wnaethom ni sefydlu bwyd hefyd.” 

Mae maethu neu ddarparu llety â chymorth i ffoaduriaid ifanc yn golygu eu llywio nhw fel unrhyw berson ifanc arall yn eu harddegau. Mae angen cymorth yn aml ar bobl yr oedran hynny wrth gael pethau fel gwasanaethau iechyd, neu sgiliau ymarferol fel coginio, rheoli arian neu sut i drefnu biliau. Efallai bydd angen cymorth arnyn nhw i gofrestru gyda choleg ac anogaeth i gael cymwysterau.

Fel gofalwr i ffoadur sy’n ceisio lloches, efallai bydd angen cymorth arnoch chi i’w helpu i baratoi am y broses o geisio lloches, sydd yn anodd ond sy’n gallu bod yn dyngedfennol ar gyfer eu dyfodol yn y DU.  Gall bod yn eiriolwr a chynnig cefnogaeth emosiynol i berson ifanc ar yr adeg anodd yma fod yn amhrisiadwy.

Pa gefnogaeth sydd ar gael i mi?

Gall gwahaniaethau diwylliannol ac iaith yn gallu gwneud y daith yma ychydig yn fwy anodd ar y dechrau, ond i bobl sy’n chwilfrydig, â meddwl agored ac sy’n mwynhau dysgu, gall maethu ffoadur ifanc hefyd fod yn brofiad gwerth chweil.

Er mwyn goresgyn y rhwystrau iaith, efallai bydd eich cyngor lleol yn gallu darparu cyfieithydd i chi; mae’n werth hefyd cysylltu ag oedolion sy’n gweithio mewn clybiau lleol, canolfannau cymunedol neu ysgolion. Efallai gall athro neu hyfforddwr chwaraeon o’r un cefndir diwylliannol fod yn fentor i’r ffoadur ifanc yr ydych yn eu cefnogi. 

Mae technoleg hefyd yn cynorthwyo gyda rhoi mynediad at raglenni fel Google Translate ac eraill, sy’n gallu cynorthwyo gyda chyfathrebu dydd i ddydd hyd nes bydd y person ifanc yn dod yn fwy rhugl mewn Saesneg.

Mae ein cymuned hefyd yn cynnig cefnogaeth helaeth. Bydd rhywun arall eisoes wedi gofyn unrhyw gwestiwn all fod gennych, felly mae atebion ar gael.  Mae pobl yn fodlon rhannu eu gwybodaeth a helpu ei gilydd. Gyda Maethu Cymru, dydych chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun.

Yn olaf, gall elusennau, er enghraifft, Barnardo’s, gynnig cymorth a chyfarwyddyd hefyd. Argymhellodd un o’n gofalwyr maeth cysylltu ag elusen sy’n gallu eich cefnogi chi a ffoadur ifanc sydd yn eich gofal trwy roi gwybodaeth a chyngor y mae eu hangen arnynt i ddechrau integreiddio i gymdeithas Gymreig.

Sut i ddechrau maethu person ifanc sy’n ceisio lloches

Ydych chi’n barod i agor eich cartref a’ch calon i ffoaduriaid ifanc sy’n agored i niwed a’u llywio at ddyfodol gwell?  Rydym am glywed gennych chi!

Os ydych chi’n byw yn Nhorfaen, Cymru, danfonwch neges atom ni, ac fe gysylltwn ni â chi cyn gynted ag y gallwn. Fel arall, gallwch ein ffonio ni ar 01495 766669 am sgwrs gyfeillgar heb unrhyw ymrwymiad.

Os ydych chi’n byw yn rhywle arall yng Nghymru, ewch at wefan Maethu Cymru, ble gallwch gael hyd i’r holl wybodaeth angenrheidiol am faethu ynghyd a manylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol. 

Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn yn eich cymuned leol, sy’n â buddion plant yn greiddiol i bob dim y maen nhw’n gwneud.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch