blog

Buddion Maethu Brodyr a Chwiorydd

Buddion maethu brodyr a chwiorydd

I blant lle mae eu bywydau wedi mynd pen i waered, gall aros gyda brodyr a chwiorydd fod yn hollbwysig. Gall perthynas plentyn gyda’u brawd neu chwaer fod yn un o’r rhai pwysicaf a hiraf yn eu bywydau.

Yn Maethu Cymru Torfaen mae cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd yn hanfodol. Rydym eisiau helpu i gynnal eu perthynas a rhoi teimlad o berthyn a sadrwydd iddyn nhw.

Gall brodyr a chwiorydd a gaiff eu gwahanu deimlo’n unig. Mae’r golled ychwanegol o gael eu gwahanu oddi wrth eu brawd neu chwaer ynghyd a’u rhieni fod yn llethol. Gallent deimlo’n llai sicr, ei chael yn anodd ffurfio perthynas a chael mwy o broblemau ymddygiad.

Pam maethu brodyr a chwiorydd?

Mae llawer o’n gofalwyr yn Maethu Cymru Torfaen sy’n maethu brodyr a chwiorydd yn dweud ei fod yn brofiad gwerth chweil. Does dim byd yn well na gwybod eich bod yn cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd. Rhoi cyfle iddyn nhw dyfu i fyny gyda’i gilydd a rhannu profiadau. Eu helpu i rannu eu hanes fel hyn.

Stori Gina a Terry

Cawsom ein cymeradwyo fel gofalwyr maeth yn 2019 a gofynnwyd i ni faethu 2 sibling ifanc 6 ac 8 oed ar unwaith. Cawsom drafodaeth am hyn fel teulu a chytuno y byddai’n beth da i ni.

Ychydig yn ddiweddarach, cawsom wybod bod ganddynt ddau sibling hŷn ac yn y gwrandawiad terfynol yn y llys, penderfynwyd y dylid lleoli’r pedwar plentyn gyda’i gilydd. Gofynnwyd i ni os buasem yn ystyried gofalu am y pedwar. Er ein bod ychydig yn betrusgar, fel gofalwyr maeth newydd ein cymeradwyo, fe wnaethon ni ystyried o ddifrif gofalu am y pedwar. Roedd ein plant ein hunain yn rhan o’r trafodaethau, a dywedasant pa mor ypsét y buasent pe bydden nhw wedi cael eu gwahanu a meddwl y dylem gynnig cartref gyda’i gilydd i’r pedwar plentyn.

Gan ein bod wedi cytuno gofalu am y ddau ieuengaf yn gyntaf ac ar ôl iddyn nhw setlo’n dda iawn, roeddem yn teimlo ychydig yn ansicr ynglŷn â maethu’r pedwar plentyn.

Diflannodd pob amheuaeth pan es i i nôl y ddau sibling ieuengaf o’r ysgol un diwrnod. Y tu allan i’r ysgol, rhedodd yr ieuengaf drosodd at ei sibling a rhoi hyg iddo gan ddweud “Rwy’n dy garu di, ti yw fy ffrind gorau”. Roeddwn yn sicr wedyn ein bod yn gwneud y peth iawn yn dod â’r plant yma yn ôl at ei gilydd.

Dri mis yn ôl, daeth y pedwar yn ôl at ei gilydd dan ein gofal ac roedd yn amlwg o’r cychwyn bod y plant yn hapus o fod yn ôl gyda’i gilydd. Roedd eu perthynas wedi newid ac roedd y deinamig wedi newid, ond roedd yn glir eu bod wedi poeni na fyddent byth yn gweld ei gilydd eto. Roeddent yn dweud cymaint roeddynt wedi colli ei gilydd.

Flwyddyn ymlaen o hynny, ac nid wy’n difaru unrhyw beth. Mae’r plant wedi integreiddio’n llawn gyda’n plant ni ac maent nawr yn rhan bwysig iawn o’n teulu.

Rwyf o’r farn na ddylai plant sydd wedi eu magu gyda’i gilydd yn yr un cartref gael eu gwahanu, oni fo problemau rhwng y plant a allai roi un neu fwy ohonynt mewn perygl.

Yn aml iawn, perthynas gyda sibling yw’r un hiraf a gawn, yn aml yn para oes, a gellir gwneud niwed emosiynol anhrwsiadwy drwy roi grwpiau sibling mewn gwahanol gartrefi maeth.

I gael gwybod rhagor, cysylltwch â ni heddiw: Fostering in Torfaen | Foster Wales Torfaen

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch