Canllaw i ofalwyr ar oroesi blynyddoedd yr arddegau
Sut ydych chi’n goroesi blynyddoedd yr arddegau fel rhiant neu ofalwr maeth? Pan fyddwch yn ystyried bod yr arddegau yn gyfnod o dwf dwys, nid yn unig yn gorfforol ond yn emosiynol a deallusol hefyd, mae’n ddealladwy ei fod yn gyfnod o ddryswch a thryblith i’r rhan fwyaf o deuluoedd.
Gall rhianta rhai yn eu harddegau fod yn heriol ac mae llawer o rieni neu ofalwyr maeth yn ei chael yn anodd addasu i’r newidiadau yn ymddygiad eu plentyn wrth iddynt dyfu i fyny. Er gwaethaf y ffaith eich bod eisiau bod yn gefnogol, efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich cau allan.
Serch hynny, nid yw hynny’n golygu na allwch ddal i gadw cysylltiad, a chynnig y cymorth maent ei angen wrth iddynt fynd drwy’r broses hon o ddod yn oedolyn ifanc. Felly, rydym wedi llunio canllaw i’ch helpu i oroesi blynyddoedd yr arddegau.
Addysgu eich hunan
Darllenwch lyfrau am laslanciau. Meddyliwch yn ôl i’ch arddegau eich hun. Cofiwch am eich pryderon ynglŷn ag acne neu embaras ynglŷn â datblygu’n gynnar neu’n hwyr. Disgwyliwch i dymer newid a byddwch yn barod am anghydfod wrth iddynt aeddfedu yn unigolion. Po fwyaf rydych yn ei wybod, y gorau y gallwch baratoi.
Dewis eich brwydrau
Os yw glaslanciau eisiau lliwio eu gwallt neu wisgo dillad gwahanol, meddyliwch ddwywaith cyn gwrthwynebu. Mae glaslanciau eisiau rhoi ysgytwad i’w rhieni weithiau, neu maent yn arbrofi gyda hunaniaeth a’u lle yn y byd, ac mae’n llawer gwell gadael iddyn nhw wneud rhywbeth dros dro a diniwed, os yw’n eu helpu i gael teimlad o bwy ydynt.
Pennu disgwyliadau
Mae cyfleu eich disgwyliadau yn bwysig iawn, gan ei fod yn helpu eich plentyn i fod yn barod am y temtasiynau a’r heriau y byddent efallai yn eu wynebu. Mae angen i laslanciau hefyd wybod bod eu rhieni neu eu gofalwyr maeth yn eu caru ddigon i ddisgwyl rhai pethau fel mynd i’r ysgol, ymddygiad parchus a helpu gyda phethau o gwmpas y tŷ. Os oes gan rieni neu ofalwyr maeth ddisgwyliadau teg a realistig, mae glaslanciau yn fwy tebygol o gydymffurfio.
Parchu preifatrwydd eich plentyn
I helpu eich glaslanc i ddod yn oedolyn ifanc, bydd angen i chi roi peth preifatrwydd iddynt nhw. Bydd hyn yn eu helpu i ddod yn fwy annibynnol a meithrin eu hunan-hyder. Fel rhiant neu ofalwr maeth, ceisiwch gael cydbwysedd rhwng gwybod beth mae eich plentyn yn ei wneud, ymddiried ynddynt i gael rhai materion preifat, a gwybod pryd i gamu i mewn.
Cofiwch bod glasoed yn golygu annibyniaeth! Ceisiwch roi’r amser a’r lle priodol iddynt nhw fod ar eu pennau eu hunain. Mae’r angen i fod ar eu pennau eu hunain yn rhan normal o dyfu i fyny.
Eu cefnogi
Chwiliwch am ffyrdd o wneud yn siŵr bod eich plentyn yn iawn. Gofynnwch iddyn nhw sut ddiwrnod gawsant, a beth maent wedi bod yn ei wneud . Weithiau, mae eu gwahodd i ymuno gyda chi mewn tasg, megis paratoi cinio, yn gallu ei gwneud yn haws iddyn nhw siarad gyda chi a sgwrsio am bethau. Byddwch yn agored, yn barod i dderbyn ac yn bwysicaf oll, gwrandwch heb feirniadu.
Atgoffwch nhw eich bod chi yno ar eu cyfer, beth bynnag sy’n digwydd. Mae’n bwysig cydnabod a derbyn emosiynau maent yn eu teimlo, hyd yn oed os yw’n teimlo’n anghyfforddus. Mynegwch empathi gwirioneddol, ond peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi gynnig ateb bob amser. Byddwch gyda nhw yn y foment, a gadewch iddyn nhw wybod y gallwch dderbyn eu poen. Yn olaf, gall fod yn hawdd sylwi bod eich plentyn yn gwneud pethau nad ydych y eu hoffi, ond ceisiwch sylw ar a’u canmol am bethau positif, pa bynnag mor fach.